Rheilffordd Dyffryn Conwy ddim yn ailagor tan yr haf
- Cyhoeddwyd

Bydd rheilffordd Dyffryn Conwy ar gau tan yr haf oherwydd difrod a achoswyd gan Storm Gareth ganol mis Mawrth.
Ddydd Mercher dywedodd cwmni Network Rail fod angen gwaith atgyweirio sylweddol ar chwe milltir o drac, dwy orsaf ac wyth croesfan rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog.
Mae disgwyl i'r rheilffordd i'r gogledd o Lanrwst ailagor ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n cael ei chynnal yn y dre ddechrau Awst.

Roedd Afon Clwyd wedi gorlifo yn ystod y storm
Ers y storm mae arbenigwyr wedi bod yn asesu'r difrod gan ddefnyddio drôns mewn mannau nad oedd modd eu cyrraedd oherwydd dŵr.
Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: "Mae peirianwyr arbenigol wedi datblygu rhaglen a fydd yn sicrhau bod y rheilffordd yn ailagor yn yr haf a mae timau wedi bod yn brysur yn sefydlu canolfannau gwaith a chael hyd i beiriannau a deunyddiau ar gyfer cwblhau'r gwaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019