Ail apêl wedi i beiriant arian gael ei ddwyn

  • Cyhoeddwyd
cerbydFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod y cerbyd wedi cael ei ddwyn o ardal Y Fenni dros y penwythnos

Mae'r heddlu wedi rhyddhau ail apêl wedi i gerbyd yrru i flaen siop a dwyn peiriant arian yn oriau mân fore dydd Llun.

Mae Heddlu Gwent bellach wedi rhyddhau llun o'r cerbyd gafodd ei ddefnyddio yn ystod y digwyddiad yn siop Co-op yn Stanley Road, Garndiffaith.

Y gred yw bod y cerbyd wedi cael ei ddwyn o ardal Y Fenni rhwng dydd Sadwrn 20 Mawrth ac oriau man dydd Llun 1 Ebrill.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yng Ngarndiffaith am oddeutu 02:40 fore Llun a'r gred yw bod tri pherson yn rhan o'r drosedd.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101 neu drwy gyfryngau cymdeithasol y llu.