Rhai o weithiau celf yr Oriel Tate yn dod i Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
gwlan
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na thema amlwg yma...

Mae cyfle unigryw i bobl weld rhai o weithiau celf byd enwog yr Oriel Tate yn Aberystwyth.

Daw hynny wrth i Amgueddfa Ceredigion gydweithio gyda'r sefydliad am y tro cyntaf.

Mae'r darnau gwaith yn rhan o arddangosfa ar ddefaid sy'n edrych ar hanes, treftadaeth a diwylliant y cymunedau sy'n ffermio.

Mae'r benthyciad yn rhan o Raglen Fenthyca Weston, gafodd ei lansio'r llynedd, sy'n galluogi orielau ac amgueddfeydd bach fenthyg gweithiau sy'n rhan o gasgliadau cenedlaethol.

'Cyfle ffantastig'

Bydd darluniau gan Henry Moore, Joseph Beuys, a'r artist o Israel, Menashe Kadishman i'w gweld yn yr amgueddfa am gyfnod byr.

Mae'r benthyciad yn rhoi cyfle i artistiaid o Gymru arddangos eu gwaith ochr yn ochr â gwaith celf o bwys rhyngwladol.

"Mae'r marchnata sy'n dod gyda benthyg o'r Tate yn atyniad mawr i bobl ddod i mewn trwy'r drws, ry'n ni'n gobeithio," meddai Alice Briggs, curadur cynorthwyol gydag Amgueddfa Ceredigion.

"I glywed yr enw Henry Moore, a gwybod bod cyfle i bobl ddod i mewn i'r adeilad a gweld gwaith sydd mor bwysig yn eu hamgueddfa leol, mae hwnna'n gyfle mor ffantastig.

"Fel arfer, mae'n rhaid i chi fynd i'r dinasoedd mawr i wneud hynny. Rydym ni'n gobeithio y bydd y darluniau yn helpu denu pobl i mewn i Amgueddfa Ceredigion."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r darnau gwaith yn rhan o arddangosfa ar ddefaid

I gyflawni'r benthyciadau hyn, bu'n rhaid i Amgueddfa Ceredigion wneud gwelliannau i'w systemau diogelwch.

Yn ogystal, darparwyd cyllid gan Raglen Fenthyca Weston ar y cyd ag Art Fund.

Rhoddwyd rhagor o gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Sefydliad John Ellerman ac 'Art Fund'.

Bydd y darluniau i'w gweld fel rhan o arddangosfa 'Defaid' yn Amgueddfa Ceredigion hyd at Fehefin 2019.