'Gwersi cyfoes pwysig i'w dysgu' gan Gymry Rhyfel Sbaen

  • Cyhoeddwyd
Twm Sbaen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tom Jones (canol) y llysenw Twm Sbaen ar ôl brwydro'n erbyn ffasgwyr Francisco Franco

Mae "gwersi cyfoes pwysig iawn i'w dysgu" gan hanes y Cymry a wirfoddolodd yn Rhyfel Cartref Sbaen, yn ôl un o drefnwyr gŵyl newydd.

Aeth tua 300 o Gymry i frwydro yn erbyn ffasgwyr Francisco Franco yn y rhyfel, ddaeth i ben 80 mlynedd yn ôl.

Un o'r rheiny oedd Tom Jones o'r Ponciau ger Wrecsam, gafodd y llysenw Twm Sbaen.

Bwriad Gŵyl Twm Sbaen, sy'n cael ei chynnal yn Wrecsam ddydd Sadwrn, ydy trafod yr hanes a bygythiad ffasgiaeth gyfoes.

'Trafodaethau a sgyrsiau'

"Rydyn ni'n cychwyn efo rali rownd y dref, yn dilyn Band Cambria," meddai Marc Jones, sydd ymhlith y trefnwyr.

"Wedyn mi fyddan ni'n mynd i Tŷ Pawb a bydd 'na b'nawn o drafodaethau a sgyrsiau am Twm Sbaen.

"Dwi'n meddwl bod 'na wersi cyfoes iawn gennym ni i'w dysgu am beidio ag ildio i ffasgiaeth a thrio cyfaddawdu efo ffasgiaeth, ac yn sicr mi fydd honna'n neges sy'n dod allan efo rhai o'r siaradwyr."

Mae ymgyrchydd dros annibyniaeth Catalonia hefyd yn cyfrannu i'r digwyddiad, sy'n cynnwys cerddoriaeth fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Tom Jones yn 1990, union 50 mlynedd ar ôl cael ei ryddhau gan luoedd Franco

Ar ôl cael ei garcharu gan luoedd Franco a'i ddedfrydu i farwolaeth yn 1939, cafodd Tom Jones ei ryddhau yn 1940 yn dilyn ymyrraeth gan Lywodraeth y DU.

Dychwelodd i Gymru a daeth yn undebwr llafur amlwg cyn ei farwolaeth yn 1990.

Ar raglen ddogfen ar Radio Cymru yn 1986, dywedodd nad oedd pobl, hyd yn oed yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn deall bygythiad ffasgwyr fel Franco, Adolf Hitler a Benito Mussolini.

"Ro'n i'n teimlo bod pobl ddim yn deall beth oedd yn digwydd yn y byd, a ddim yn deall ffasgiaeth," meddai.

"Ro'n i'n teimlo rhyw ofn, fel 'dach chi'n teimlo am blant bychain efo traffig o gwmpas - ofn iddyn nhw gael eu brifo."