Cofio Cymro a heriodd Franco a'r ffasgwyr
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 80 mlynedd eleni ers diwedd y rhyfel cartref mwyaf gwaedlyd a welodd cyfandir Ewrop yn yr ugeinfed ganrif.
Rhwng 1936 a 1939 cafodd Sbaen ei rhannu rhwng y gweriniaethwyr a'r adain chwith, a'r cenedlaetholwyr asgell dde, gyda Francisco Franco, a aeth 'mlaen i fod yn unben Sbaen, yn eu plith.
Er mai yn Sbaen oedd y brwydro, roedd yn cael ei weld fel rhyfel ryngwladol gan lawer, gyda gwirfoddolwyr o'r Eidal, Yr Almaen a Phortiwgal (ochr y Ffasgwyr) a'r Undeb Sofietaidd, Mecsico a Ffrainc (Gweriniaethwyr) yn cymryd rhan yn y brwydro.
Ymysg y rhai a deithiodd yno i ymladd oedd dynion ifanc o Gymru. Un ohonynt oedd Tom Jones o Rosllannerchrugog ger Wrecsam, a oedd yn cael ei 'nabod fel 'Twm Sbaen'.
Ar ddydd Sadwrn, 6 Ebrill bydd gŵyl arbennig yn cael ei chynnal yn Wrecsam, dolen allanol i gydnabod cyfraniad Twm Sbaen yn y frwydr yn erbyn Ffasgiaeth.
Marc Jones yw un o drefnwyr yr ŵyl: "Mae hwn yn gyfle i gofio cyfraniad Twm Sbaen i'r holl beth, a beth mae o'n symbylu.
"Roedd o'n löwr, a hefyd yn ysgrifennydd y Rhos Peace Council. Roedd o'n foi a oedd yn credu dros heddwch gymaint ei fod yn mynd allan i gwffio drosto."
Mae'n debyg y bod trychineb pwll glo Gresffordd ger Wrecsam yn 1934 wedi effeithio'n fawr ar Twm. Roedd gweld y cyrff yn dod i'r wyneb wedi'r ddamwain yn ddylanwad mawr ar ei ddaliadau gwleidyddol.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach ymunodd â degau o Gymry eraill yn y Frigâd Ryngwladol.
"Mi roedd Rhyfel Cartref Sbaen yn prelude, neu'n fan cychwyn i'r Ail Ryfel Byd," dywedodd Marc. "'Dan ni'n cofio'r Ail Ryfel Byd yn aml, ond 'dan ni ddim yn cofio beth ddigwyddodd cyn hynny. Roedd 'na gyfle i stopio'r Rhyfel Byd yn Sbaen, ond ddigwyddodd hynny ddim, er gwaethaf ymdrechion pobl fel Twm Sbaen."
Gadael Cymru am Sbaen
"D'wedodd Twm wrth ei rieni ei fod yn mynd i Fae Colwyn am y penwythnos, lle'r oedd mewn gwirionedd yn teithio i Barcelona. Doedd o ddim mor hawdd yn y dyddiau yna 'chwaith, i deithio i Sbaen!
"Dwi'n siŵr oedd 'na dipyn o antur, ond roedd o'n antur bwysig, ac roedd 'na rywbeth difrifol iawn tu ôl i'r peth."
Teithiodd Twm i Sbaen drwy Ffrainc er mwyn mynd i ymladd dros y Frigâd Ryngwladol.
Wedi cyfnod hir o ymladd bu Tom ym mrwydr waedlyd yr Ebro yn 1938, ac ef oedd yr unig unig un o'i fataliwn i oroesi. Cafodd anafiadau wrth ymladd, a'i garcharu gan y Ffasgwyr.
Yn Zaragoza y cafodd ei garcharu i ddechrau, ac yna yn Burgos yng ngogledd Sbaen, y ddinas lle'r oedd Generalissimo Francisco Franco a'r Ffasgwyr wedi ei wneud yn bencadlys i'w hunain.
"Cafodd ei anafu gan fwledi mewn pum man ar ei gorff," esbonia Marc. "Cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth ddwywaith, ac fe gafodd ei rieni dystysgrif marwolaeth yn dweud ei fod wedi ei ladd, ond cafodd y ddedfryd ei ohirio ar y ddau achlysur."
Cafodd Twm ei ryddhau yn 1940 wedi i Lywodraeth Prydain dalu £2m er mwyn ei ryddhau.
"Yn ôl y sôn," meddai Marc, "cafodd y £2m ei dalu nid mewn arian i Franco, ond mewn sebon. Erbyn 1940 roedd pethau reit brin, ond yn amlwg roedd gan Brydain sebon dros ben."
Dychwelyd i Gymru
Roedd Twm yn gomiwnydd pan yn ifanc ond parhaodd i fod yn weithgar iawn gyda'r undebau llafur a hawliau gweithwyr yn hwyrach yn ei fywyd.
Yn 1953 daeth yn swyddog llawn amser gyda'r Transport and General Workers' Union (TGWU), ac ef oedd ysgrifennydd yr undeb yng Nghymru nes iddo ymddeol yn 1973. Bu farw yn Wrecsam yn 1990.
"Nes i ddim cyfarfod efo fo yn bersonol," dywed Marc Jones, "ond dwi 'di siarad efo'i deulu dipyn. Mae'r teulu'n dod i'r ŵyl ac yn gefnogol iawn. Mae Jill ei ferch a'i ŵyr yn siarad Cymraeg ac yn byw yn ardal Penarlâg. Mae un o wyrion Twm bellach yn byw yn Sbaen."
Gobeithion ar gyfer yr ŵyl
"Gan mai hwn 'di'r un cyntaf a bod ni 'di bod yn gweithio ato dros y misoedd diwetha', mi fydd 'na dipyn yn troi allan ar gyfer yr orymdaith rownd y dref. Yn y prynhawn byddan ni yn Tŷ Pawb, canolfan celfyddydau Wrecsam lle bydd cyfle i wrando ar y sgyrsiau a thrafodaethau 'dan ni wedi eu trefnu.
"Bydd siaradwr o Gatalonia hefyd yn dod i drafod ffasgiaeth fodern Gwladwriaeth Sbaen, a bydd amryw o gyfranwyr eraill yn trafod ffasgiaeth sy'n bodoli ledled y byd heddiw."