Achos Pentywyn: Dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio

  • Cyhoeddwyd
Simon Peter ClarkFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Simon Clark ei ddarganfod mewn maes carafanau ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin ar 28 Medi

Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio ei gymydog yn dilyn ffrae mewn maes carafanau yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd corff Simon Clark ei ddarganfod ym maes carafanau y Grove ym Mhentywyn ar 28 Medi y llynedd.

Cafwyd Steven Baxter, 52 oed, yn euog o'r llofruddiaeth yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.

Fe benderfynodd y rheithgor bod cymydog arall i Mr Clark, Jeffrey Ward, 40, yn ddieuog o'r un drosedd.

Dywedodd yr erlyniad fod y tri dyn yn byw drws nesaf i'w gilydd ar y maes carafanau, ac yn ystod ffrae rhyngddynt ar 27 Medi, cafodd Mr Clark ei drywanu.

Aeth Baxter ar ffo o'r heddlu am wythnosau yn dilyn marwolaeth Mr Clark, gan ysgogi ymdrech eang gan Heddlu Dyfed-Powys i'w ddarganfod.

Cafodd Baxter ei ddal a'i arestio ar 27 Hydref yn ardal Pentywyn.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Baxter yn gwrthod y cyhuddiad yn ei erbyn drwy gydol yr achos

Roedd Baxter wedi gwrthod yr honiadau yn ei erbyn drwy gydol yr achos, gan ddadlau fod Mr Clark wedi marw drwy ddisgyn ar y gyllell wrth iddo geisio amddiffyn ei hun yn ystod y ffrae.

Bydd Baxter yn cael ei ddedfrydu ddydd Mawrth, yn ogystal â phartner Mr Ward, Julie Harris, a blediodd yn euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder yn gynharach yn yr achos.