Ystyried herio sylwadau 'difenwol' cadeirydd bwrdd iechyd

  • Cyhoeddwyd
Pentref Llesiant LlanelliFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mynegodd cadeirydd bwrdd iechyd ei fod yn "amheus" ynghylch ymatebion prif weithredwr y cyngor am Bentref Llesiant Llanelli

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ystyried camau cyfreithiol yn erbyn cadeirydd bwrdd iechyd yn dilyn ffrae am un o brosiectau bargen ddinesig Bae Abertawe.

Dywedodd y cyngor fod llythyr gan Andrew Davies, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg "o bosibl yn ddifenwol".

Honnodd Mr Davies ei fod yn "amheus" ynghylch yr ymatebion a roddwyd gan Mark James, prif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, mewn perthynas â Phentref Llesiant Llanelli.

Yn un o 11 prosiect y Fargen Ddinesig ar gyfer rhanbarth Bae Abertawe, bwriad y pentref yn Llynnoedd Delta ydi creu hyd at 2,000 o swyddi mewn cyfleusterau iechyd, hamdden ac ymchwil.

Ym mis Tachwedd, cafodd pedwar aelod o staff ym Mhrifysgol Abertawe eu gwahardd o'u gwaith, ac fe gadarnhaodd y Brifysgol yn ddiweddarach fod hynny'n gysylltiedig â'i rôl fel partner yn y prosiect.

'Cymryd cyngor cyfreithiol'

Ysgrifennodd Andrew Davies, cyn Weinidog Llywodraeth Cymru, at Brifysgol Abertawe a'r pedwar arweinydd cyngor sy'n ymwneud â'r fargen ddinesig.

Roedd y llythyr ym mis Mawrth yn galw ar bawb a oedd yn ymwneud â'r Pentref Lles i gadw at saith Egwyddor Nolan o fywyd cyhoeddus, sy'n cynnwys tryloywder a gonestrwydd.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin: "Rydym yn ystyried cynnwys y llythyr a byddwn yn cyhoeddi ymateb cadarn maes o law. Byddwn hefyd yn cymryd cyngor cyfreithiol wrth i ni ystyried bod y datganiadau a wnaed o bosib yn ddifenwol."

Dywedodd Andrew Davies ei fod yn "synnu ac yn siomedig" bod y llythyr wedi cael ei ddatgelu.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Mr Davies ei fod yn ymddiswyddo fel cadeirydd y bwrdd iechyd er y bydd yn parhau yn ei swydd am y tro.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fod Andrew Davies wedi mynegi ei safbwyntiau yn rhinwedd ei swydd fel aelod o Gyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe.