Elfyn Evans: Angen dysgu a symud ymlaen wedi siom Corsica
- Cyhoeddwyd
"Anghofio, a dysgu o beth sydd wedi mynd o'i le."
Dyna yw'r ffordd bydd y gyrrwr rali o Ddolgellau, Elfyn Evans, yn paratoi ar gyfer y ras nesaf ym Mhencampwriaeth Rali y Byd, ar ôl gorffen yn drydydd yn Rali Corsica ddiwedd Mawrth.
Roedd y Cymro wedi arwain y rali am saith o'r 14 o gymalau cyn iddo gael pyncjar gyda llai na 11km i fynd tan ddiwedd y ras.
Wrth edrych yn ôl, dywedodd Evans fod y ras wedi bod yn "siom fawr ar yr adeg".
"Ti'n gweithio mor galed a rhoi gymaint o waith mewn dros y penwythnos ac i golli o yn y ffordd yna mae o wrth gwrs yn brifo.
"Ond mae'n ddarn o'r sport a 'da ni wedi bod ar yr ochr arall o blaen i hynny, dwi'n cofio yn Finland yn 2017 cawsom ni'r safle o 0.3 eiliad.
"Mae'n gweithio'r ddwy ffordd."
Ar hyn o bryd mae Evans, sy'n rasio i dîm M-Sport Ford WRT, yn y bedwaredd safle ym Mhencampwriaeth y Byd gyda 43 o bwyntiau.
Mae'r Cymro 32 o bwyntiau y tu ôl i'r arweinydd, Thierry Neuville o Wlad Belg, sy'n rasio ar ran Hyundai.
Nawr mae Evans yn cyfaddef fod angen "anghofio ac edrych ymlaen".
Ar ddiwedd Ebrill bydd Evans a'i dîm yn teithio i'r Ariannin ar gyfer pumed ras yn y bencampwriaeth.
Gyda 10 ras yn weddill mae'n dal i obeithio y gall ddringo yn ôl i'r brif safle.
"'Da ni licio gobeithio a 'da ni'n 'neud bob dim fedrwn ni i wneud y gorau fedrwn ni.
"Cawsom ni ddim y cychwyn gorau i'r tymor yn Monte Carlo ar ôl damwain eithaf mawr. Ond yn gobeithio am ragor o ganlyniadau ar y podiwm."
Wrth edrych ymlaen, mae'n dweud y bydd y ras yn yr Ariannin yn her.
"Mae'n rali dwi'n mwynhau ond mae 'na sialens. Mae'n rough dros ben ac mae angen edrych ar ôl y car, mae'n hawdd iawn pigo difrod neu gael pyncjar tebyg."
Bydd rali Xion Argentina yn cael ei chynnal rhwng 25-28 Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2017