Ymchwilio i 'waharddiad Cymraeg' clwb bingo Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Bingo Caernarfon

Mae cwmni Majestic Bingo wedi dweud y byddan nhw'n ymchwilio i honiad fod rheolwr wedi dweud wrth weithwyr am beidio siarad Cymraeg gyda'i gilydd.

Daw ar ôl i'r cwmni dderbyn llythyr gan Gymdeithas yr Iaith yn adrodd cwyn gan aelod o staff y clwb yng Nghaernarfon.

Mae'r gymdeithas wedi rhybuddio'r cwmni fod gwharddiad o'r fath yn anghyfreithlon, ac mae nhw wedi anfon cwyn i swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr Majestic Bingo wedi dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad mewnol brys i'r mater, ond fod eu hymholiadau cychwynnol yn awgrymu nad oedd yr honiad yn gywir.

'Ymddygiad annerbyniol'

Yn y llythyr dywed Cymdeithas yr Iaith fod aelod o staff Apollo Bingo yng Nghaernarfon wedi cwyno wrthyn nhw fod rheolwr newydd y clwb wedi rhoi gorchymyn na ddylai'r staff siarad Cymraeg hefo'i gilydd, yn enwedig petai un o dri aelod newydd, oedd yn ddi-gymraeg, yn bresennol.

Mae'r gymdeithas wedi anfon cwyn ffurfiol at swyddfa'r Comisiynydd gan ddadlau fod gweithred o'r fath yn anghyfreithlon, ac y dylai'r Comisiynydd ymchwilio.

Yn ôl y gweithiwr, sy'n dymuno aros yn ddienw, roedd aelodau o staff wedi derbyn gorchymyn i beidio siarad Cymraeg.

Dywedodd gweithiwr wrth y rheolwr fod pawb sy'n gweithio yno yn siarad Cymraeg, ond bod y rheolwr wedi ymateb drwy ddweud "I don't care, not when I'm around".

Disgrifiad o’r llun,

Nid dyma'r unig achos o bobl sydd wedi cael gorchymyn i beidio siarad Cymraeg yn y gweithle, medd Selwyn Jones

Dywed Cymdeithas yr Iaith fod ymddygiad o'r fath yn gwbl annerbyniol.

Dywedodd Selwyn Jones wrth y Post Cyntaf: "Falla bod pobl ddim yn sylweddoli pa mor ddifrifol ydy o, achos ym Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 mae'n anghyfreithlon i nadu rhywun rhag siarad Cymraeg.

"Yn anffodus nid hwn ydy'r unig achos sydd wedi bod o bobl yn dweud nad ydyn nhw'n cael siarad Cymraeg yn y gweithle, a dwi'n credu ei bod hi'n bwysig fod pobl yn dallt fod gynnyn nhw'r hawl i siarad Cymraeg.

"Ac os oes yna ryw achos lle mae rhywun yn nadu iddyn nhw siarad Cymraeg fe ddylen nhw adrodd yn syth i Gomisiynydd y Gymraeg."

'Angen deall os yn ymwneud â'r gwaith'

Mewn datganiad i'r Post Cyntaf dywedodd Mark Jepp, Rheolwr Gyfarwyddwr Majestic Bingo, eu bod yn cynnal ymchwiliad mewnol brys i'r mater, ond fod eu hymholiadau cychwynnol yn awgrymu nad oedd yr honiad yn gywir.

"Fydden ni ddim yn gwahardd unrhyw un, boed aelod o staff neu gwsmer rhag siarad Cymraeg, ond byddem angen deall unrhyw beth sy'n cael ei ddweud yng nghyd-destun gwaith."

Ychwanegodd ei fod wedi ceisio cysylltu gyda swyddfa'r Comisiynydd i gael ymateb.