Diffodd tanau glaswellt milltir o hyd ar ochrau mynyddoedd

  • Cyhoeddwyd
RhigosFfynhonnell y llun, Rhian Grundy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd modd gweld "cylch perffaith o dân" ar y Rhigos, yn ôl un o'r trigolion lleol

Mae diffoddwyr tân wedi llwyddo i ddiffodd tanau glaswellt mawr ar ochrau mynyddoedd yn y de-ddwyrain.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i fynydd Maerdy yn Rhondda Cynon Taf toc wedi 17:30 nos Lun, lle'r oedd 88 hectar o ochr y mynydd ar dân.

Ychydig wedi hynny, cafodd diffoddwyr tân eu galw i dân 50 hectar - tua milltir o hyd - yn y Rhigos, gyda gwyntoedd cryfion yn achosi iddyn nhw ledaenu'n gyflym.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod criwiau wedi llwyddo i ddiffodd y tannau erbyn bore dydd Mawrth.

Yn ôl Rhian Grundy, sy'n byw yn Llwydcoed yn Aberdâr, roedd modd gweld "cylch perffaith o dân" ar y Rhigos o'i thŷ.

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân hefyd ddiffodd tanau ym Mrynmenyn, Pen-y-bont, Treharris ym Merthyr Tudful, Gilfach Goch yn Rhondda Cynon Taf ac ym Mhontardawe.