Pyllau glo de Cymru yn 'hafan hollbwysig' i bryfed prin

  • Cyhoeddwyd
Pry
Disgrifiad o’r llun,

Roedd bron i 200 o'r rhywogaethau cafodd eu darganfod yn rai dan fygythiad

Mae hen domenni gwastraff pyllau glo de Cymru wedi datblygu'n "hafan hollbwysig" ar gyfer pryfed prin, yn ôl astudiaeth newydd.

Ymhlith y 901 o rywogaethau a gofnodwyd, roedd bron i 200 dan fygythiad.

Cafodd sawl pryfyn sy'n newydd i Brydain eu darganfod hefyd - gan gynnwys 'Bwystfil Beddau', neidr filtroed gwyn.

Mae'r ymchwilwyr yn galw am warchod y safleoedd, sy'n aml yn cael eu hystyried fel tir i'w ddatblygu.

Cafodd arolygon eu cynnal ar draws 15 o domenni glo - wyth yn Rhondda Cynon Taf a saith yng Nghastell-nedd Port Talbot - rhwng 2015 a 2018.

Fe wnaeth yr ymchwil ddangos fod y pridd ar y safleoedd yn isel mewn maeth, sy'n golygu nad yw gwair a phlanhigion cyffredin wedi dominyddu.

Yn hytrach, dros gyfnod o ddegawdau mae ystod eang o lystyfiant amrywiol ac unigryw wedi sefydlu - o fwsog a chen, i flodau gwyllt a choed.

Yn ogystal, lle mae hen graig o'r pyllau glo wedi cywasgu, mae llynnoedd a chorsydd wedi ffurfio.

Disgrifiad,

Mae'n rhaid i ni "gydnabod gwerth a chyfoethogrwydd y safleoedd yma", yn ôl Mike Webb

Gan fod angen sawl math gwahanol o gynefin ar bryfed i gwblhau eu cylch bywyd, mae'r tomenni wedi datblygu'n "lloches" ar eu cyfer, yn ôl Liam Olds, prif awdur yr astudiaeth.

"Ar un domen fe allech chi gael popeth o goedwig, i laswelltir yn llawn blodau, i lynnoedd a corslwyni - cynefinoedd sy'n dirywio mewn ardaloedd eraill o gefn gwlad."

"Mae'r safleoedd yma wedi troi'n ynysoedd bychain lle gall bioamrywiaeth ffynnu," meddai.

Cafodd 90 math o wenyn eu cofnodi, 28 rywogaeth iâr fach yr haf, a 13 gwas y neidr.

'Rhaid i ni ailfeddwl'

Roedd yr ymchwil wedi'i gefnogi gan gynghorau sir Rhondda Cynon Taf, Castell Nedd Port Talbot, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac elusennau Buglife Cymru a'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt.

Disgrifiodd swyddog cadwraeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Mike Webb y casgliadau fel rhai "hynod gyffrous".

Gyda safleoedd o'r fath yn aml yn cael eu hystyried fel "tir diffaith" ac yn cael eu llygadu ar gyfer plannu coed neu gnydau biomas, neu eu hailddatblygu ar gyfer glo brig, mynnodd bod angen eu gwarchod.

"Mae'n rhaid i ni ailfeddwl - cydnabod gwerth y safleoedd yma a'u cyfoethogrwydd nid dim ond ar gyfer bywyd gwyllt ond i'r gymuned hefyd. Maen nhw'n adnodd arbennig ar gyfer y gymuned leol."