Saethu bwa croes Môn: Heddlu'n apelio i'r saethwr
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi apelio i'r unigolyn sy'n gyfrifol am saethu dyn â bwa croes yn Ynys Môn i gysylltu â nhw.
Cafodd Gerald Corrigan, 74, ei saethu y tu allan i'w gartref ar gyrion Caergybi yn oriau mân fore Gwener.
Mae Mr Corrigan yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearny ei fod yn gobeithio y bydd y saethwr yn "gwneud y peth iawn".
Fe wnaeth Mr Corrigan, cyn-ddarlithydd ffotograffiaeth yn Sir Gaerhirfryn, symud i Ynys Môn dros 20 mlynedd yn ôl.
Dywedodd yr heddlu ei fod yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu tu allan i'w gartref ger y gyffordd rhwng Lôn Porthdafarch a Ffordd Plas.
Ar ôl ymchwilio'r anafiadau fe ddaeth staff meddygol i'r casgliad bod yr anafiadau yn gyson gyda rhai o ymosodiad â bwa croes.
Mae'r teulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Anafiadau 'ofnadwy'
Yn ôl yr heddlu mae Mr Corrigan wedi dioddef anafiadau "ofnadwy" ar ôl i'r saeth ei daro yn ei fron a'i fraich dde.
Ychwanegodd Mr Kearney: "Rydw i'n apelio i'r person a saethodd y bwa croes i ddod yn ei flaen. Mae'r ymchwiliad yn gwbl ddiduedd a dwi'n siŵr y byddai unrhyw un a saethoddodd unigolyn arall ar ddamwain wedi eu heffeithio yn ofnadwy."
Mae Heddlu Gogledd Cymru bellach yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un sy'n ymwneud â hela neu reoli pla yn ardal Ynys Lawd.
Mae'r llu hefyd wedi gofyn i unrhyw fusnes sydd yn gwerthu bwâu croes i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2019