Amgueddfa Werin Sain Ffagan ar restr fer gwobr £100,000

  • Cyhoeddwyd
Prif adeilad Sain FfaganFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwelliannau i'r prif fynedfa yn rhan o'r cynllun ailddatblygu diweddaraf

Mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan wedi ei chynnwys ar restr fer gwobr flynyddol sy'n dathlu gorchestion arbennig a cynlluniau arloesol o fewn amgueddfeydd ac orielau ar draws y DU.

Mae'r safle ymhlith pump ar restr fer gwobr Art Fund Museum of the Year 2019, sy'n werth £100,000 i'r enillydd.

Cafodd gwelliannau gwerth £30m eu cwblhau y llynedd i'r amgueddfa yng Nghaerdydd, gan gynnwys tair oriel newydd a gweithdy sgiliau traddodiadol.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn Llundain ar 3 Gorffennaf.

Hefyd ar y rhestr fer mae HMS Caroline, Belfast; oriel Nottingham Contemporary; Amgueddfa Pitt Rivers yn Rhydychen a V&A Dundee.

Mae'r trefnwyr yn disgrifio'r wobr fel yr un "fwyaf mawreddog ar gyfer amgueddfeydd trwy'r byd".

Bydd y pedwar sefydliad sydd ddim yn cipio'r prif wobr o £100,000 yn derbyn £10,000 yr un.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwelliannau wedi gwneud hi'n bosib i'r amgueddfa gyflwyno mwy o hanes pobl Cymru nag o'r blaen

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Amgueddfa Cymru, David Anderson eu bod yn falch iawn o'r enwebiad.

"Roedd 2018 yn flwyddyn arwyddocaol yn hanes yr amgueddfa," meddai, gan gyfeirio at gwblhau'r cynllun ailddatblygu.

"Rydym yn falch eithriadol bod y Sain Ffagan ar ei newydd wedd wedi ei chreu trwy gymorth ymarferol a haelioni gymaint o bobl yng Nghymru a thu hwnt."

Dywedodd bod y prosiect, a gafodd arian loteri, wedi elwa o gyfraniadau "3,000 o wirfoddolwyr a 200 o fudiadau cymunedol, elusennau stryd a grwpiau lleol o bob rhan o Gymru".

"Mae'r orielau newydd yn cyflwyno cynrychiolaeth ehangach o lawer nag o'r blaen o amrediad hanes dynol Cymru, o'r helwyr Neanderthalaidd cyntaf i'r gymdeithas amlddiwylliannol gyfoes."

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Werin Cymru

Roedd cwblhau'r gwelliannau yn cydfynd â 70 mlwyddiant Sain Ffagan - atyniad treftadaeth fwyaf poblogaidd Cymru.

Un atyniadau mwyaf diweddar y safle yw Llys Llywelyn - ail-gread o lys tywysog canoloesol Llys Rhosyr ar Ynys Môn - ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ailgodi Tafarn y Vulcan oedd yn arfer sefyll yng Nghaerdydd.

Wrth longyfarch y pum sefydliadar y rhestr fer, dywedodd cadeirydd beirniaid y wobr a chyfarwyddwr Art Fund, Stephen Deuchar ei fod "yn annog pawb i ymweld â nhw".

Ychwanegodd bod pob un wedi ymateb i'r "dasg hanfodol o ddenu ac ymwneud â chyn gymaint o bobl â phosib mewn ffyrdd newydd ac anturus".

Mae'r gronfa gelf yn cefnogi a helpu amgueddfeydd ac orielau i brynu ac arddangos darnau celf fel bod mwy o bobl yn eu gweld.