Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes 22 oed yn Abertawe yr wythnos ddiwethaf.
Cafwyd hyd i gorff Sammy-Lee Lodwig yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol yn ardal Carlton Terrace ar 23 Ebrill.
Fe wnaeth Jason Shaun Farrell, 49 o Abertawe, ymddangos ger bron Llys Ynadon Abertawe fore Llun.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron y ddinas ddydd Mawrth.
Mae Mr Farrell hefyd wedi'i gyhuddo o glwyfo dyn arall gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol ar 20 Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019