Pum peth sydd wedi newid yng Nghymru ers 1999

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n 20 mlynedd ers i Gymru gael llywodraeth ddatganoledig.

Ond beth sydd wedi newid yng Nghymru? Dyma bump ffordd mae pethau'n wahanol:

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Presgripsiynau am ddim - 2007

Does neb eisiau bod yn sâl ond o leiaf gall fod yn rhatach i ni yma yng Nghymru i gael meddyginiaeth ers cyflwyno presgripsiynau am ddim ar 1 Ebrill 2007. Dilynodd Gogledd Iwerddon yn 2010 a'r Alban yn 2011.

Yr enw hir am y polisi yma, i'r rhai â diddordeb, oedd Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007.

Ffynhonnell y llun, BBC / Getty

Gwahardd ysmygu - 2007

Mae hi'n 12 mlynedd ers i ni allu mynd adref o'r dafarn heb ddrewi fel blwch llwch, ac ers i ni i gyd ddysgu'r gair 'mangre'. Er ei fod flwyddyn ar ôl Yr Alban, roedd Cymru eto o flaen Gogledd Iwerddon a Lloegr yn gwahardd ysmygu mewn adeiladau - neu fangreoedd - ar 2 Ebrill 2007.

Roedd hyn yn dilyn pasio Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ymhellach, drwy wahardd ysmygu mewn cerbydau sydd â theithiwr o dan 18 oed yn 2015.

Disgrifiad o’r llun,

Meri Huws, Comisiynydd cyntaf y Gymraeg

Statws swyddogol i'r Gymraeg - 2011

Dim ond yn 2011 - dim ond wyth mlynedd yn ôl, a dim ond filoedd o flynyddoedd ers i'r iaith ddechrau cael ei siarad - y cafodd statws y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru ei chadarnhau.

Roedd y statws roddwyd ar ôl pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2010 yn golygu na all y Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, yn rhoi dyletswydd ar gyrff i ddefnyddio'r Gymraeg ac yn hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.

Roedd y mesur hefyd yn sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg a allai 'ymchwilio i ymyrraeth â'r rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg'. Meri Huws oedd y Comisiynydd cyntaf, ond ers dechrau Ebrill 2019, y cyn Aelod Cynulliad, Aled Roberts, sydd wrth y llyw.

Ffynhonnell y llun, vejaa

Codi tâl am fagiau siopa - 2011

Faint o fagiau defnydd patrymog all rhywun ei gael? Mae bagiau aml-ddefnydd yn gwerthu'n anhygoel o dda, ac mae'n siŵr fod hynny yn bennaf oherwydd y gost sy'n cael ei chodi am fagiau plastig mewn siopau (a'r awydd i fyw yn wyrdd, wrth gwrs). Ond pwy sy'n cofio'r dyddiau pan doedd dim rhaid cario llond eich hafflau o fagiau i'r siop, yn ogystal ag wrth ddod o'r siop?!

Ar 1 Hydref 2011, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i godi tâl bychan am fagiau siopa untro fel rhan o strategaeth y Llywodraeth i leihau maint y gwastraff sydd yn cael ei gladdu.

O ganlyniad i basio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010, cyhoeddwyd yn 2017 fod Cymru wedi cwrdd â'r targed o 64% o wastraff i gael ei ailgylchu erbyn 2019-20. Ac mae bagiau aml-ddefnydd yn llawer mwy ffasiynol na hen fag plastig gwyn, beth bynnag.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Tybio caniatâd i roi organau - 2015

Cyn 2015, os oedd rhywun yn marw a heb nodi eu bod eisiau rhoi eu horganau, yna mae'n anhebygol y byddent yn cael eu rhoi i helpu pobl eraill oedd eu hangen neu tuag at ymchwil feddygol. Y neges oedd siaradwch â'ch teulu ynglŷn â'ch dewisiadau o ran rhoi organau ar ôl i chi farw. Yn anffodus, a hithau'n gyfnod mor anodd i deulu yn dilyn marwolaeth, yn enwedig os oedd y farwolaeth yn un sydyn, roedd nifer o deuluoedd yn gwrthod rhoi organau eu perthynas.

Fodd bynnag, newidiodd y drefn o roi organau ar 1 Rhagfyr 2015 o ganlyniad i Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013. Bellach, mae caniatâd i roi organau ar ôl marwolaeth yn cael ei dybio, yn hytrach na bod angen gofyn am ganiatâd teulu'r unigolyn. Rhaid 'optio allan' os nad ydych chi eisiau i'ch organau gael eu rhoi ar ôl i chi farw. Yn ôl ffigurau Gwaed a Thawsblannu'r GIG, mae roedd cynnydd eithriadol yn y raddfa caniatâd gan y teulu i roi organau o 58% yn 2015, i 75% yn 2018.

Dod at ein coed

Ac un bach ychwanegol i gloi - oeddech chi'n gwybod fod 'na goeden wedi ei phlannu am bob plentyn sydd wedi ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru ers 2008?

Syniad merch ysgol o Gaerdydd, Natalie Vaughan, oedd y cynllun sy'n cael ei redeg ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Coed Cadw a Chyfoeth Naturiol Cymru. Yn 2018, datgelwyd fod 15 o goetiroedd newydd a 380,00 o goed wedi eu plannu ledled Cymru dros ddegawd cyntaf y prosiect.

Ers 2014, mae ail goeden hefyd yn cael ei phlannu yn Uganda.

Hefyd o ddiddordeb: