Atgyfodi hen farwdy ym mynwent Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Fe all hen farwdy yn Wrecsam, sydd heb ei ddefnyddio ers 70 o flynyddoedd, gael ei ailagor fel atyniad twristiaid.
Roedd yr adeilad wedi mynd yn angof i'r rhan fwyaf o drigolion yr ardal ac wedi ei orchuddio gan dyfiant.
Ond yn ei dro roedd y tyfiant wedi gwarchod y safle rhag yr elfennau a'i gadw mewn cyflwr arbennig o dda.
Cafodd yr adeilad ei godi yn 1939 a'i ddefnyddio fel marwdy ychwanegol ar gyfer Ysbyty Coffa Wrecsam.
Credir mai hwn yw'r unig farwdy o'i fath i oroesi yn y gogledd.
Dywed cadwraethwyr eu bod nawr yn gobeithio y bydd y safle yn troi yn atyniad i ymwelwyr sydd â diddordeb yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd.
Dywedodd gofalwr y fynwent Graham Lloyd iddo benderfynu mynd i mewn i'r adeilad ar ôl clywed am hanes y lle gan un o'i gydweithwyr.
Er ei fod wedi ei orchuddio gyda thyfiant dywedodd fod ei gyflwr yn arbennig o dda o ystyried ei fod wedi bod yn wag ers dros hanner can mlynedd.
Mae grŵp Cyfeillion Mynwent Wrecsam eisoes yn cynnal tripiau gwybodaeth o amgylch y fynwent.
Yn ôl y grŵp cadwriaethol mae cofnodion manwl wedi eu cadw o'r rhai a aeth i'r marwdy.
Yn eu plith roedd pobl leol gafodd eu lladd ar ôl i awyren Almaenig gwympo ar bentref Cefn a phobl gafodd eu lladd gan fomiau yn Wrecsam a Rhos yn Awst 1940.
Y rhai olaf i fynd i'r marwdy oedd yr wyth a fu farw ar ôl i awyren yr RAF syrthio i'r ddaear ger Bwlch-gwyn yn 1943.
"Ar wahân i glirio gwydr oedd wedi ei dorri, a gwneud y lle yn ddiogel ein bwriad yw cadw bopeth fel y mae o," meddai Mr Lloyd.
"Mae gennym yr holl gofnodion sy'n sôn am y bobl a'r amgylchiadau. Mae'r marwdy yn ychwanegu at hanes y fynwent."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2018