Carcharu wyth aelod arall o gang cyffuriau o Gasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae wyth aelod o gang cyffuriau o Gasnewydd wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o dros 30 mlynedd yn y carchar.
Mae hanner arall y grŵp, wnaeth gyflenwi Casnewydd â gwerth hyd at £2.7m o gyffuriau, eisoes wedi cael eu carcharu ym mis Mawrth.
Cafodd y grŵp, oedd yn cael ei arwain gan y brodyr Jerome a Blaine Nunes, eu harestio ym mis Mehefin y llynedd yn dilyn ymdrech eang gan yr heddlu oedd yn cynnwys dros 120 o swyddogion.
Cafwyd yr wyth yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffur dosbarth A yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener.
Ymysg y rhai cafodd eu dedfrydu dydd Gwener oedd mam y brodyr Nunes, Angela Collingbourne.
Roedd Collingbourne yn helpu'r grŵp i werthu cyffuriau tra bod ei meibion yn rheoli'r ymgyrch o'r carchar.
Clywodd y llys bod y gang wedi dosbarthu tua 42kg o gocên yn y ddinas rhwng Gorffennaf 2016 a Mehefin 2018.
Dywedodd Iwan Jenkins o Wasanaeth Erlyn y Goron fod yr ymchwiliad "wedi dod o hyd i swm sylweddol o gyffuriau oedd yn cael ei werthu ar strydoedd Casnewydd" a bod "y grŵp yn drefnus iawn gyda phob unigolyn yn chwarae rôl benodol."
Dedfrydau
Angela Collingbourne - chwe blynedd;
Khaleen Hussain - chwe blynedd;
Tia Donovan-Jones - dwy flynedd;
Matthew Croft - saith blynedd a phedwar mis;
Thomas Jones - pedair blynedd;
Rhys Jones - pedair blynedd;
Liam Slade - un blwyddyn;
Joshua Southall - wyth mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019