Annog pobl i gael brechiad rhag y ffliw

  • Cyhoeddwyd
brechiad

Am y tro cyntaf bydd holl blant oed cynradd yn gymwys i dderbyn brechiad am ddim fel rhan o ymgyrch flynyddol y gwasanaeth iechyd i annog pobl i gael brechlyn ffliw.

Eleni bydd y brechlyn hefyd yn cael ei gynnig am ddim i staff cartrefi gofal a chartrefi nyrsio mewn ymdrech i'w diogelu nhw yn ogystal â chleifion bregus.

Y gaeaf diwethaf oedd y gwaethaf o ran niferoedd ffliw ers 2009 - gyda meddygon teulu yn gweld 16,600 o achosion.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, y brechiad ffliw yw'r "dull diogelu gorau yn erbyn dal neu ledaenu" yr haint, sy'n gallu peryglu bywydau.

Cafodd mwy na 820,000 o frechlynnau ffliw eu rhoi gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru'r llynedd.

Eleni bydd:

  • holl blant oedran cynradd yn gymwys i gael brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn ogystal â phlant 2/3 oed;

  • staff mewn cartrefi gofal sydd mewn cysylltiad rheolaidd â thrigolion yn gallu cael brechlyn am ddim ynghyd â staff y gwasanaeth iechyd sydd mewn cysylltiad cyson â chleifion;

  • merched beichiog, pobl sydd â chyflyrau iechyd a phawb dros 65 mlwydd oed hefyd yn gymwys, ynghyd â gofalwyr di-dâl a gwirfoddolwyr cymorth cyntaf.

Y llynedd fe gafodd 69% o oedolion dros 65 oed eu brechu yng Nghymru - y ffigwr uchaf erioed ond yn is na'r targed o 75%.

Fe gafodd 58% o weithwyr y gwasanaeth iechyd sydd yn cael cysylltiad cyson â chleifion eu brechu - ffigwr uwch na'r flwyddyn flaenorol ond yn is na'r targed o 60%.

Cafodd 49% o oedolion dan 65 a chlefydau hirdymor eu brechu - y nod yw cyrraedd 75%, ffigwr sy'n cael ei argymell gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Bydd Ysgrifennydd Iechyd Cymru Vaughan Gething yn lansio'r ymgyrch mewn fferyllfa yng Nghwmbrân yn ddiweddarach.

Dywedodd: "Gall y ffliw fod yn salwch sy'n bygwth bywyd ar gyfer pobl sydd mewn perygl oherwydd eu hoedran, problem iechyd sylfaenol, neu oherwydd eu bod yn feichiog. Pwysleisiwyd hyn yn anffodus yn rhy glir yn ystod yr achosion o ffliw y gaeaf diwethaf.

"Mae brechlyn ffliw ar gael yn eich meddygfa ac mewn nifer o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru. Dyma'r ffordd orau i amddiffyn eich hun ac eraill rhag y firws peryglus hwn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich amddiffyn yn fuan."

Disgrifiad,

Annog pobl i gael brechiad rhag y ffliw

Hyd yn oed os nad yw person yn gymwys i dderbyn y brechlyn am ddim, gall oedolion drefnu i dalu £10 i gael eu brechu mewn fferyllfeydd cymunedol.

Dywedodd Rhodri Thomas, fferyllydd cymunedol yng Nghaerdydd, bod cael brechiad yn cymryd y "straen" oddi wrth ysbytai.

"Eleni, mae'n rhwyddach nag erioed i gael y brechiad," meddai.

"Mae'n bwysig eich bod chi'n cymryd gofal o iechyd eich hun, ond hefyd eich bod chi'n cymryd gofal o iechyd y boblogaeth gyfan."

Beth yw'r brechlyn a sut mae'n gweithio?

Mae'r brechlyn yn cymryd chwe mis i'w greu ac yn cael ei dyfu mewn wyau.

Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) sy'n dewis pa gyfuniad o wahanol fathau o ffliw ddylai gael eu cynnwys yn y brechlyn yn dilyn asesiad o'r mathau sy'n debygol o effeithio ar y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Richard Roberts, mae'r ffliw yn newid ei ffurf yn aml

"Mae pedwar prif fath o feirws ffliw ac mae'n rhaid i ni atal yn erbyn y pedwar yna mewn brechlyn," meddai Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Brechlyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Mae'r feirws yn newid hyd yn oed o fewn tymor. Chi'n cael dwsinau neu gannoedd o fathau o'r feirws felly mae'n bwysig bod y WHO yn dewis yr un sy'n fwyaf tebygol o ledu.

"Gaethon ni lot fwy o achosion llynedd nag oedden ni wedi cael ers 10 mlynedd."

Pam mor effeithiol yw'r brechiad?

Dros y ddegawd ddiwethaf mae effeithiolrwydd y brechlynnau yn gyffredinol wedi bod rhwng 40-60% ond gall hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Y llynedd doedd y brechlyn ddim yn effeithiol iawn yn diogelu yn erbyn un straen ffliw oedd yn amlwg yng Nghymru.

Oherwydd rôl plant yn ymledu ffliw, yr amcangyfrif yw bod brechu un plentyn yn gallu diogelu 10 oedolyn.