Ateb y Galw: Y ddarlledwraig Catrin Beard
- Cyhoeddwyd
Y ddarlledwraig Catrin Beard sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Mari Beard yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Chwarae yn yr Ysgol Feithrin yn Llundain, a theimlo trueni dros y plant eraill am nad oedden nhw'n gallu fy neall i'n siarad Cymraeg.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
JPR Williams - ei wallt yn donnau euraidd a'i sanau rownd ei figyrnau wrth sgorio ceisiau i Gymru.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cerdded yn borcyn o'r gawod i fy stafell wely, a gweld dyn y tu allan ar ysgol yn golchi'r ffenest. Mewn panic, es i lawr ar fy nghwrcwd i drio cuddio o dan y ffenest, heb gofio bod drych mawr ar y wal gyferbyn. Erbyn hyn, mae gennym ni lanhawr ffenestri newydd.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dagrau cyson o anobaith oherwydd Brexit.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Fydda i byth yn glanhau fy nghar. Mae fel twlc.
O archif Ateb y Galw:
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Craig Llysfaen ger Caerdydd, prom Aberystwyth, Llyn Llech Owain, Cwm yr Eglwys, Pont y Borth. Amhosib dewis un o blith yr holl fannau prydferth llawn atgofion yng Nghymru.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noswyl y Nadolig pan oedd y plant yn fach - y rhuthr a'r cyffro, gosod sheri a mins pei i Siôn Corn a moron i'r ceirw, ymdrech arwrol y plant i fynd i gysgu fel bod y bore yn dod yn gynt, a phum munud o lonydd cyn stwffio'r twrci a'i roi yn y popty i goginio dros nos.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Dibynadwy. Darllengar. Daiddimosoesprycopynytŷ.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Er nad ydw i wedi'i ddarllen ers degawdau, y llyfr gariodd fi drwy fy arddegau oedd Jane Eyre. Llawn awyrgylch, cymeriadau cryf a stori wych. Fe dreuliais i fis Ionawr eleni ar Ynys Fadog gyda Jerry Hunter a'i ddarlun epig o hanes America a'r Cymry ymfudodd yno. Ar hyn o bryd dwi'n mwynhau llyfrau John Boyne - doniol ac eithriadol o ddeifiol. Wythnos nesa', bydd y dewis yn wahanol, ond bydd Jane Eyre yn dal yna.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Dorothy Parker. Cocktail yn Efrog Newydd gyda menyw fwyaf ffraeth yr 20fed ganrif - pwy fyddai'n gwrthod y fath gyfle?
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fi oedd llais mam Dai Texas yn Superted.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dathlu fy mhen-blwydd yn 350 oed gyda fy ngor-or-or-or++ wyrion.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Mil harddach wyt na'r rhosyn gwyn. Roeddwn i'n ei chanu i fy mhlant pan oedden nhw'n fabis.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Yn lle pryd, llond bwrdd o gawsiau, olifau, grawnwin, bara Ffrengig, coffi cryf a gwin gwyn oer dan gysgod coeden yn Ffrainc, ynghyd â phlatiad o brownies Siân fy chwaer. Byddai'r profiad yn gymaint mwy na blas yn unig.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Michelle Obama.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Gaynor Davies