Gorsedd y Beirdd: Y de a'r canolbarth

  • Cyhoeddwyd
Orsedd 2018
Disgrifiad o’r llun,

Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn Sir Conwy.

Mae'r anrhydeddau'n gyfle i "roi clod i unigolion o bob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru", yn ôl y trefnwyr.

Dyma'r rhai o dde a chanolbarth Cymru fydd yn cael eu hurddo ym mis Awst:

GWISG WERDD

Mae Euros Rhys Evans yn arweinydd, cerddor a chyfansoddwr adnabyddus o'r Barri sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i'w ardal a'i wlad. Bu'n bennaeth cerddoriaeth Ysgol Gyfun Llanhari cyn gadael i weithio fel cerddor llawrydd, gan gyfansoddi, trefnu, cynhyrchu a chyfarwyddo. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer nifer o gyfresi teledu, gan ennill gwobr BAFTA Cymru am sgôr y ffilm Streic yn 1996. Roedd yn un o hyfforddwyr ac arweinwyr Côr Eisteddfod 2012, ac mae'n organydd yng Nghapel y Tabernacl, Caerdydd.

Yn un o gerddorion amlycaf Cymru, mae dawn Catrin Finch o Bentyrch ar y delyn wedi'i harwain i lwyfannau ar hyd a lled y byd. Yn wreiddiol o Lan-non, Ceredigion, llwyddodd yn ei harholiad gradd wyth gyda'r marc uchaf ar draws Prydain gyfan, a hithau ond yn naw oed ar y pryd. Mae hi wedi recordio a rhyddhau cynnyrch sy'n cynnwys gweithiau gan gyfansoddwyr o bob cyfnod, ynghyd â chyfres o alawon gwerin o Gymru, a phrosiect arbennig gyda'r cerddor Seckou Keita o Senegal. Mae'n weithgar yn ei chymuned, ac mae Academi Catrin Finch yn trefnu Ysgol Haf y Delyn ymhlith digwyddiadau eraill o bwys.

Bu Meurig Williams o Gaerdydd yn weithgar iawn am flynyddoedd ym myd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, a'i brif nod yw lledaenu poblogrwydd cerddoriaeth draddodiadol Cymru a'r ffyrdd gwerinol o'i chanu. Mae'n gadeirydd Clera, ac wedi cyfrannu'n helaeth at ddatblygu Tŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei genhadaeth dros gerddoriaeth draddodiadol yn parhau, gan alluogi cerddorion amatur hen ac ifanc i ganu ein halawon unigryw gyda'i gilydd yn gyhoeddus.

GWISG LAS

Symudodd Beverley Lennon i'r Barri o Brixton, Llundain wedi iddi daro pin ar fap a phenderfynu symud a chychwyn o'r newydd yn dilyn marwolaeth ei mam. Cafodd ei swyno gan y Gymraeg, a dechreuodd wrando ar Radio Cymru a gwylio S4C yn rheolaidd. A hithau wrth ei bodd yn dysgu, llwyddodd i ennill gradd A* TGAU a gradd A Safon Uwch mewn dwy flynedd, ac ar ôl graddio, cafodd swydd yn dysgu Cymraeg yn Ysgol Cantonian yng Nghaerdydd. Bu'n cyfrannu at raglenni radio'n rheolaidd, cyn symud ymlaen i gyflwyno'r gyfres Cam Ymlaen i ddysgwyr, yn ogystal â'i rhaglen ei hun ar Radio Cymru. Yn ddiweddar, fe'i henwebwyd yn un o'r 100 menyw fwyaf dylanwadol yng Nghymru.

Un a ddysgodd y Gymraeg ac sy'n parhau i gefnogi'r rheini sy'n dysgu heddiw yw Malcolm Llywelyn o Aberhonddu. Er iddo ymddeol erbyn hyn, mae'n parhau i gynnal dosbarthiadau a gweithgareddau i ddysgwyr yn ei fro. Mae hefyd yn cyfrannu'n gyson i'r papur bro lleol, ac wedi cyhoeddi amryw o lyfrynnau ar hanes lleol.

Pan gaeodd Capel yr Annibynwyr, Soar, Merthyr Tudful fel addoldy, aeth Lis McLean ati i wireddu ei gweledigaeth i greu Canolfan Gymraeg yn ei chymuned. Dan ei harweiniad, llwyddodd pwyllgor rheoli'r Fenter Iaith i sicrhau grantiau a chyllid er mwyn creu canolfan werthfawr gydag adnoddau ardderchog. Erbyn heddiw, mae'n gartref i lu o sefydliadau a chymdeithasau sy'n gweithredu er budd y Gymraeg, ac yn ganolfan allweddol i ddyfodol yr iaith yn lleol. Dyma ganolfan sy'n arwydd clir fod y Gymraeg yn dal yn fyw yn ardal Merthyr, gyda Lis McLean yn parhau wrth y llyw.

Ymddeolodd Elfed Roberts, Caerdydd o'i swydd fel Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018, yn dilyn chwarter canrif wrth y llyw. Datblygodd ac esblygodd yr Eisteddfod yn rhyfeddol dan ei ofal, ac erbyn heddiw mae'n ŵyl fywiog a lliwgar sy'n denu ymwelwyr o bob oed a chefndir, ond heb golli golwg ar ei gwreiddiau dwfn yn nhraddodiadau a diwylliant Cymru. Yn ystod ei gyfnod, teithiodd yr Eisteddfod i bob rhan o'r wlad, ac mae'r gwaddol ieithyddol a diwylliannol a adawyd ar ei hôl i'w weld yn glir ym mhob cornel o Gymru. (I'w urddo yn 2020)

Disgrifiad o’r llun,

Caerdydd 2018 oedd Eisteddfod olaf Elfed Roberts wrth y llyw

Cyfrannodd Huw Thomas o Gaerdydd yn helaeth i fyd addysg Gymraeg am flynyddoedd. Roedd yn bennaeth cyntaf Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhymni, a bu'n flaengar wrth ddatblygu'r iaith o fewn y dosbarth ac yn gymdeithasol. Dilynodd drywydd tebyg pan oedd yn bennaeth ar Ysgol Gymraeg Glantaf, ac o fewn tair blynedd i'w benodi roedd pob pwnc Lefel A yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu'n gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau dylanwadol ym myd addysg, a bu'n gefnogwr brwd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol o'r cychwyn.

Yn dilyn cyfnod llwyddiannus gyda Heddlu Gogledd Cymru, cafodd Jeremy Vaughan o'r Bontfaen ei benodi yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu'r De yn 2016, a'i gyfrifoldebau'n cynnwys arwain ar bortffolio'r iaith Gymraeg. Mae'r iaith bellach yn cael ei gweld fel rhan sylfaenol o'r swydd, ac mae mwy o swyddogion yn mynychu gwersi Cymraeg nag sydd yna o lefydd. Hefyd, mae pob gwasanaeth sydd ar gael i'r cyhoedd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Rowland Wynne o Gaerdydd wedi bod yn hyrwyddo'r Gymraeg yn ardal Taf Elái am flynyddoedd lawer. Ef oedd sefydlydd a threfnydd Cylch Cadwgan, cymdeithas lenyddol sy'n cyfarfod yn rheolaidd. Bu'n gweithio ym myd addysg, wedi treulio blynyddoedd gyda'r Brifysgol Agored a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, gan gyfrannu'n sylweddol i'r sector yng Nghymru. Mae'n cael ei anrhydeddu eleni am ei waith ymchwil a'i gyfrol am y gwyddonydd athrylithgar o Geredigion, Yr Athro Evan James Williams.

Mae rhestr lawn o'r anrhydeddau isod: