Gorsedd y Beirdd: Y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
Orsedd 2018
Disgrifiad o’r llun,

Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn Sir Conwy.

Mae'r anrhydeddau'n gyfle i "roi clod i unigolion o bob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru", yn ôl y trefnwyr.

Dyma'r rhai o orllewin Cymru fydd yn cael eu hurddo ym mis Awst:

GWISG WERDD

Er mai athrawes Addysg Grefyddol oedd Helen Gibbon o Gapel Dewi, bu cerddoriaeth yn rhan bwysig o'i bywyd erioed. Enillodd ar yr Unawd Soprano yn yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, a bu'n arwain a hyfforddi ieuenctid ac oedolion i ganu, gan lwyddo droeon yn Eisteddfod yr Urdd gyda chorau ysgol. Sefydlodd Gôr Tŷ Tawe yn 1990, ac mae'n parhau i'w arwain o hyd, bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach.

GWISG LAS

Jonathan Davies yw canolwr y Scarlets a thîm rygbi Cymru, a chwaraeodd ran amlwg ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Cafodd ei ddewis gan ei gyd-chwaraewyr yn Chwaraewr y Gyfres ar daith y Llewod yn 2017.

Yn gynharach eleni, roedd Ken Owens yn rhan o dîm rygbi Cymru a gipiodd y Gamp Lawn ar ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

O Bont-iets yn wreiddiol, symudodd Margot Ann Phillips Griffith i Seland Newydd bron i hanner canrif yn ôl. Mae'n dychwelyd i'w chynefin yn flynyddol ac yn mynychu'r Eisteddfod yn rheolaidd. Bu'n llywydd Cymdeithas Gymreig Wellington amryw o weithiau, a'i gweledigaeth yn arwain at gynnal cyfarfodydd gloywi iaith, ynghyd â chystadleuaeth ysgrifennu barddoniaeth a stori fer ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae'n trefnu derbyniad i dîm rygbi Cymru pan fyddan nhw'n ymweld â Wellington, a hi hefyd sy'n trefnu codi'r Ddraig Goch ar adeilad senedd Seland Newydd ar 1 Mawrth bob blwyddyn. (I'w hurddo yn 2020)

Disgrifiad o’r llun,

Y cyflwynydd a'r colofnydd, Aled Samuel

Mae Aled Samuel yn adnabyddus fel darlledwr a chyflwynydd ar y radio a'r teledu mewn cyfresi fel 04 Wal, Pobl a'u Gerddi ac Y Dref Gymreig. Mae'n gyfrannwr rheolaidd i'r cylchgrawn Golwg ac yn awdur amryw o lyfrau, gan gynnwys detholiad o'i golofnau yn y cylchgrawn hwnnw.

Mae Nesta Williams o Landysul wedi gwirfoddoli a helpu eraill mewn nifer o feysydd dros y blynyddoedd, gan godi arian ar gyfer elusennau. Mae'n codi arian ar gyfer ymchwil i glefyd Motor Niwron, gan iddi golli ffrind agos i'r clefyd, a bu hefyd yn codi arian i brynu cyfarpar allweddol i ward arbenigol Calon Plus yn Ysbyty Glangwili. Mae'n adnabyddus i gystadleuwyr yr Eisteddfod Genedlaethol gan ei bod wedi gwirfoddoli ar y maes ers 1984, gan ofalu am y Pagoda.

Mae rhestr lawn o'r anrhydeddau isod: