Pryder am effaith prinder meddygon plant yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth Iechyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen 73 meddyg arall er mwyn cynnig gwasanaethau digonol, yn ôl yr adroddiad

Gall prinder meddygon plant gael effaith niweidiol ar iechyd cenedlaethau'r dyfodol heb ymateb ar frys, yn ôl arbenigwyr.

Mae adroddiad newydd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn dweud bod Cymru ar fin wynebu argyfwng recriwtio yn y maes.

Yn ôl yr adroddiad, mae angen o leiaf 73 meddyg ymgynghorol ychwanegol - cynnydd o 42% - er mwyn darparu gofal o safon addas i blant a phobl ifanc.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "buddsoddi mwy nac erioed mewn hyfforddiant meddygon plant".

Mae nifer y meddygon plant wedi cynyddu 2.9% rhwng 2015 a 2017, ond mae'r cynnydd hwn yn llawer is i gymharu â Lloegr yn yr un cyfnod - 6.4%.

Meddygon plant cyffredinol, sy'n gofalu am blant rhwng genedigaeth a glaslencyndod, yw'r maes sydd angen mwyaf o recriwtio, yn ôl yr adroddiad.

Mae'r adroddiad wedi cynnig sawl argymhelliad i fynd i'r afael â'r broblem:

  • Datblygu strategaeth benodol sy'n delio â gweithlu iechyd plant sy'n cynnwys amrywiaeth o ddoctoriaid, bydwragedd, nyrsys, fferyllwyr a nyrsys ysgol;

  • Angen i Lywodraeth Cymru gynyddu'r cyfleoedd hyfforddi;

  • Ychwanegu blwyddyn i hyfforddiant meddygon teulu sy'n cynnwys chwe mis yn canolbwyntio'n benodol ar drin plant;

  • Cynnig cymhelliad ariannol i gadw gafael ar feddygon plant yn ogystal â denu mwy i'r swydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth nifer y meddygon plant gynyddu 2.9% yng Nghymru rhwng 2015 a 2017

Dywedodd Dr David Tuthill o'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant bod yr adroddiad yn dangos yn glir pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa.

"Mae angen i'r diffyg meddygon plant fod yn flaenoriaeth. Os nad oes cynnydd yn nifer y llefydd hyfforddi yna byddwn yn gweld mwy o fylchau mewn rotas ar hyd Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig," meddai.

"Rydw i'n erfyn ar Lywodraeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a'r byrddau iechyd lleol i ystyried ein hargymhellion yn ofalus, ac fel mater o frys."

'Mwy o hyfforddiant ar gael'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod mwy o lefydd hyfforddi ar gael yng Nghymru nac erioed o'r blaen.

"Yn y tair blynedd diwethaf mae'r nifer o feddygon plant ymgynghorol wedi cynyddu 18.9%," meddai.

"Mae'r ymgyrch marchnata cenedlaethol a rhyngwladol yn helpu ni ddenu doctoriaid newydd i Gymru, ac yn y gorffennol wedi canolbwyntio ar unigolion sy'n hyfforddi i fod yn feddygon plant.

"Byddwn ni yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru wrth ystyried argymhellion yr adroddiad."