Cytundeb ar drin cleifion Cymru yn Ysbyty Iarlles Caer
- Cyhoeddwyd

Bydd cleifion o Gymru yn gallu cael triniaeth mewn ysbyty yn Sir Caer unwaith eto ar ôl i weinidogion ddod i gytundeb.
Cyhoeddodd Ysbyty Iarlles Caer ym mis Ebrill na fyddai'n parhau i drin cleifion o Gymru, oni bai am achosion brys a mamolaeth.
Dywedodd yr ysbyty, sy'n gwasanaethu cleifion o ogledd Cymru, bod y penderfyniad yn ymwneud â thaliadau ariannol.
Ddydd Gwener, cyhoeddodd Gweinidog Iechyd Cymru ei fod wedi dod i gytundeb ar "drefniadau gofal iechyd trawsffiniol ar gyfer 2019/20".
'Sefyllfa y gellid ei hosgoi'
Y gred yw bod tua 20% o gleifion yr ysbyty yn byw yng Nghymru, y mwyafrif o'r rhain yn Sir y Fflint.
Roedd y penderfyniad i wrthod cleifion o Gymru'n golygu nad oedd meddygon teulu yn gallu cyfeirio cleifion i'r ysbyty - gan roi pwysau ychwanegol ar Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Ar y pryd, dywedodd prif weithredwr yr ysbyty, Susan Gilby, bod rhaid cymryd y penderfyniad "anodd", a hynny "oherwydd problemau'n ymwneud â chyllid sydd heb eu datrys".

Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn "siomedig" gyda'r camau a gymerodd Ysbyty Iarlles Caer
Ddydd Gwener, cadarnhaodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, ei fod wedi dod i gytundeb ar ofal trawsffiniol.
"Disgwyliaf y bydd Ysbyty Iarlles Caer yn parchu'r cytundeb hwnnw ac yn gwyrdroi'r penderfyniad i beidio â derbyn cleifion newydd o Gymru sydd wedi dewis cael eu hatgyfeirio yno," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn "siomedig gyda'r camau a gymerwyd" i atal cleifion, a'i fod yn "sefyllfa y gellid yn hawdd fod wedi'i hosgoi".
Yn sgil y trafodaethau, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n talu mwy am ofal cleifion o Gymru yn Lloegr, a bod disgwyl i GIG Lloegr dalu mwy am ofal cleifion o Loegr yng Nghymru hefyd.
Dywedodd is-weinidog iechyd Llywodraeth y DU, Nicola Blackwood, eu bod wedi gweithredu "yn niddordebau gorau" cleifion ar ddwy ochr y ffin.
"Byddwn yn rhoi'r cyllid angenrheidiol ar gyfer eleni fel bod gwasanaethau arferol yn parhau i bobl leol gyda Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dalu costau blynyddoedd y dyfodol."
Cytuno ar adnoddau priodol
Dywedodd Ms Gilby bod yr ysbyty wedi cael gwybod "yn glir" nad oedd trafodaethau ar ofal trawsffiniol yn parhau ar yr adeg pan gafodd gofal ei atal.
Ychwanegodd nad oedd "unrhyw brotocol yn bodoli" yn golygu bod rhaid "parhau i dderbyn cyfeiriadau heb arian digonol ar draul diogelwch cleifion".
Dywedodd ei bod nawr yn "edrych ymlaen at ddod i gytundeb gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gan wybod y bydd cleifion yn manteisio o'r buddsoddiadau diogelwch fydd yn cael eu sicrhau gan yr adnoddau priodol".
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, ond dywedodd ei fod yn "siom enfawr" bod y sefyllfa wedi gwaethygu i'r fath raddau.
Dywedodd Darren Millar AC y byddai'r Ceidwadwyr yn cadw "llygad barcud ar sut mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen gyda'r sefyllfa" i "sicrhau nad ydy cleifion yn dioddef eto".
Dywedodd AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd: "Mae'r bennod hon wedi achosi pob math o bryderon diangen i gleifion yng ngogledd Cymru ac mae angen sicrwydd arnom na fydd hyn yn digwydd eto."
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac Adran Iechyd Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2019