Saethu bwa croes: Dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn o Ynys Môn yn dilyn digwyddiad pan gafodd ei saethu gan fwa croes ym mis Ebrill.
Yn ôl yr heddlu roedd Gerald Corrigan, 74, yn trwsio lloeren deledu y tu allan i'w gartref ger Caergybi pan gafodd ei saethu.
Cafodd Mr Corrigan ei gludo i Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke gydag anafiadau difrifol wedi'r digwyddiad.
Mewn datganiad dywedodd heddlu'r gogledd: "Er gwaethaf ymdrechion gorau staff meddygol a fu'n trin Gerald Corrigan, bu farw dydd Sadwrn o ganlyniad i anafiadau erchyll ar ôl cael ei saethu gan fwa croes y tu allan i'w gartref yn gynnar ar fore Gwener Ebrill 19."
Dywedodd y ditectif sydd yn arwain yr ymchwiliad, Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney: "Mae hyn yn achos dychrynllyd ac rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Mr Corrigan yn ystod y cyfnod trist yma.
"Mae ei deulu yn parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol."
"Sioc i'r gymuned"
Cadarnhaodd yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i'r diwgyddiad ac maen nhw wedi gofyn unwaith eto am gymorth gan unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglyn â'r digwyddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ei fod yn ddiwrnod trist iawn i'r teulu: "Heb os mae wedi bod yn sioc i'r gymuned. Mae'n ardal braf, bydd pobl mewn sioc."
"Mae'n ardal mor dawel, mae hyn yn gwneud i chi feddwl beth sy'n digwydd?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2019