Adran Dau: Mansfield 0-0 Casnewydd (3-5 ar giciau o'r smotyn)
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n gem gynhyrfus a nerfus yn Mansfield ddydd Sul wrth i Gasnewydd a Mansfield geisio sicrhau lle yn Wembley ar y 25 Mai er mwyn cael cyfle i godi i Adran Un y gynghrair bêl-droed yn Lloegr.
Ar adegau roedd y naill dîm a'r llall yn chwarae'n ofalus ond gan amlaf roedd yr Alltudion a Mansfield yn chwilio am y gôl fyddai yn rhoi mantais iddynt.
Gêm gyfartal oedd hi yn Rodney Parade, 1-1 ar 9 Mai.
Yn y gêm hon roedd y ddau gôl geidwad Logan a Day yn chwarae'n gampus a rhwystro sawl gôl sicr wrth i'r chwarae wibio o un pen i'r cae i'r llall.
Ond ar derfyn y 90 munud roedd hi'n parhau yn ddi-sgôr ac aeth y gêm i amser ychwanegol.
Ar ddiwedd hanner awr ychwanegol roedd hi'n dal yn gyfartal er i Mansfield ymosod yn ddi-drugaredd tua diwedd yr ail hanner - felly roedd tynged yr Alltudion yn ddibynnol ar giciau o'r smotyn.
'Ar y ffordd i Wembley'
Roedd cefnogwyr Casnewydd yn cnoi eu hewinedd wrth wylio'r ciciau o'r smotyna'r ciciau cyntaf yn llwyddiannus.
Yna codwyd calon yr Alltudion wrth i Day arbed trydedd cic Mansfield gan Walker.
Daeth Matt Dolan i gymryd ei gic ef ac wrth iddo sicrhau anfon y golwr y ffordd anghywir fe sgoriodd.
Felly 5 i 3 i Gasnewydd a lle wedi ei sicrhau i'r Alltudion yn rownd derfynol gemau'r ail gyfle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2019