Damwain awyren Y Fenni: 'Diolch am ein helpu'
- Cyhoeddwyd

Stuart Moore (dde) oedd y peilot a'i nai Jack Moore (chwith) a'i nith Billie Manley oedd hefyd ar yr awyren
Mae un o'r teithwyr a oedd ar fwrdd yr awyren a losgodd yn ulw ger Y Fenni fore Sul wedi dweud eu bod nhw'n bobl lwcus iawn.
Roedd Jack Moore, Billie Manley a'r peilot Stuart Moore ar awyren fechan a laniodd ben i waered ar ffordd yr A40 rhwng Rhaglan a'r Fenni am 11:00 fore Sul, cyn mynd ar dân.
Cafodd y tri eu hachub gan deithwyr a oedd yn gyrru ar y ffordd adeg y ddamwain.
Bellach mae galwadau am i'r cyn-filwr a dynnodd y tri allan o'r tân i gael gwobr am ei ddewrder.

Cafodd y tri a oedd ar yr awyren eu tynnu'n rhydd gan gyn-filwr a oedd yn gyrru ar hyd ffordd yr A40 adeg y ddamwain
Dywedodd Jack Moore ar Facebook: "Mae'n hollol anhygoel fy mod i a fy nheulu wedi llwyddo i oroesi hwn, ac rydw i am ddiolch i'r holl yrrwyr a ddaeth i'n cynorthwyo ni a'r gwasanaethau brys.
"Mae llawer o storiau anghywir wedi cael eu rhannu gan sawl ffynhonnell, ond y prif neges ydy na chafodd unrhyw un ei anafu'n ddifrifol.
"Diolch yn fawr iawn am yr holl negeseuon.... rydyn ni'n bobl lwcus, lwcus iawn."

Dan Nicholson a Joel Snarr oedd ymysg y cyntaf i ddarganfod yr awyren, gan helpu i dynnu'r teithwyr allan ohoni
Mae Frank Cavaciuti, sy'n berchen ar lain lanio breifat i'r de o'r Fenni, wedi canmol dewrder Joel Snarr, un o'r rhai dynnodd y peilot a'r ddau deithiwr allan o'r awyren tra'r oedd hi ar dân.
"Mae e'n arwr, does dim dwywaith amdani, fe achubodd e fywydau'r tri," meddai Mr Cavaciuti.
"Ychydig bach iawn o amser oedd yna i dynnu'r tri allan, mae'n hollol wych ei fod e yna ar y pryd."
Dechrau ymchwiliad
Dywedodd Mr Cavaciuti ei fod wedi siarad gyda Mr Snarr, sy'n gyn-swyddog difa bomiau yn y Fyddin, wedi'r digwyddiad ac y dylai nawr gael ei enwebu ar gyfer gwobr dewrder.
"Fe ddigwyddodd y ddamwain mor sydyn," meddai, gan ddweud fod yr awyren wedi ffrwydro wrth iddo fynd ati a bod y gwres yn llethol.
"Do'n i ddim yn deall ar y cychwyn bod y tri wedi cael eu hachub, felly mae'n rhaid bod Mr Snarr wedi ymateb mor gyflym."

Roedd yr awyren Cirrus SR22, a oedd yn chwech oed, wedi hedfan i'r Fenni o Lundain yn gynharach y bore hwnnw.
Mae BBC Cymru'n cael ar ddeall bod y peilot, Stuart Moore, wedi glanio yn Y Fenni er mwyn casglu ei nith Billie Manley a'i nai Jack Moore.
Mae Cangen Ymchwilio Damweiniau Awyr wedi cychwyn ar eu gorchwyl o geisio darganfod beth yn union aeth o'i le.
Y gred ydy fod yr awyren wedi taro ceblau trydan cyn glanio ar ffordd ddeuol yr A40.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2019