Y Blaid Geidwadol yn addo dileu Bagloriaeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, Thinkstock

Ni fyddai disgyblion ysgol yn gorfod gwneud Bagloriaeth Cymru o dan lywodraeth Geidwadol.

Dywedodd y Torïaid eu bod nhw'n ymateb i bryderon pobl ifanc drwy addo dileu'r cymhwyster.

Dywedodd llefarydd addysg y blaid fod "dryswch" ynglŷn ag agwedd prifysgolion tuag ato ac y byddai cael gwared arno'n "ysgafnhau'r baich" mewn ysgolion.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod hi'n gwneud mwy i ddangos bod y fagloriaeth yn werthfawr.

Cafodd Bagloriaeth Cymru ei ail-lansio pedair blynedd yn ôl, gyda'r bwriad o ddysgu sgiliau a phrofiadau sydd ddim ar gael mewn pynciau traddodiadol.

Fis diwethaf, fe ddywedodd adroddiad gan bwyllgor addysg y Cynulliad y gallai'r dyfodol fod yn "ddisglair" os ydy gwendidau'r cymhwyster yn cael eu cywiro.

Ond fe ddywedodd hefyd fod gan rieni a phobl ifanc amheuon ynghylch ei werth, ac nad oedd cyflogwyr a phrifysgolion yn gwybod digon amdano.

Cwricwlwm newydd

Dywedodd llefarydd addysg y Torïaid, Suzy Davies y byddai cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno mewn ysgolion yn cyflawni'r un nod.

"Dyw'r fagloriaeth ddim yn cael ei gwerthfawrogi gan gyflogwyr, rhai o'n prifysgolion a rhai o'n pobl ifanc - achos mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn cwyno wrthon ni ynglŷn â'r fagloriaeth," meddai.

Nid yw pob prifysgol yn cyfrif Bagloriaeth Cymru yn yr un modd â lefelau A wrth gynnig llefydd i fyfyrwyr, yn ôl adroddiad y pwyllgor.

Dywedodd Ms Davies, sy'n aelod o'r pwyllgor addysg, y dylai hynny ynddo'i hun "fod yn gloch rybudd fawr".

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cwricwlwm newydd yn cyflawni'r un nod â'r fagloriaeth, yn ôl Suzy Davies

Dywedodd David Evans, o Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, bod cyflwyno'r cwricwlwm newydd "yn gyfle i edrych eto ar y Bacc".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod adroddiad y pwyllgor yn dangos bod yna "werth amlwg wrth astudio Bagloriaeth Cymru, yn enwedig o ran ehangu sgiliau".

"Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy i hybu manteision y cymhwyster ac rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau eraill i sicrhau bod rhieni, dysgwyr, prifysgolion a chyflogwyr yn deall y sgiliau allweddol y mae dysgwyr yn eu datblygu."