Deddf datblygiad cynaliadwy 'bron yn ddiwerth', medd QC

  • Cyhoeddwyd
Rhodri Williams QC

Mae deddf sy'n ceisio sicrhau "datblygiad cynaliadwy" gan gyrff cyhoeddus "bron yn ddiwerth", yn ôl bargyfreithiwr.

Roedd ymgais i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, dolen allanol i atal cau ysgol ym mis Mawrth yn aflwyddiannus.

Yn ôl Rhodri Williams QC, mae penderfyniad y barnwr yn dangos bod y ddeddf yn "aneffeithiol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod dehongli'r gyfraith yn fater i'r llysoedd.

Deddf sy'n 'fwriadol annelwig'

Bwriad y ddeddf ydy ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy, gan osod targedau sy'n cynnwys creu "cymunedau deniadol, hyfyw, diogel gyda chysylltiadau da".

Roedd cyfreithwyr ar ran rhieni oedd yn anhapus â chynllun i gau Ysgol Cymer Afan yng Nghwm Afan wedi gobeithio defnyddio'r ddeddf fel sail am adolygiad barnwrol.

Ffynhonnell y llun, Jaggery/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymgyrchwyr yn ceisio sicrhau adolygiad barnwrol ar ddyfodol Ysgol Gyfun Cymer Afan

Ond cafodd y cais ei wrthod gan farnwr yn yr Uchel Lys, gan ddweud bod y ddeddf yn "fwriadol annelwig, cyffredinol ac uchelgeisiol".

Ychwanegodd y barnwr bod cau'r ysgol "ddim yn anghyson" â thargedau Cyngor Castell-nedd Port Talbot dan y ddeddf beth bynnag.

Dywedodd Rhodri Williams QC, oedd yn gweithio ar ran yr ymgyrchwyr, ei fod yn ddeddfwriaeth oedd "wedi ei ddrafftio yn arbennig o wael".

Dywedodd wrth raglen Wales Live: "Mae pawb am weld Cymru wydn, Cymru sy'n ffynnu, Cymru sydd heb anghyfiawnder.

"Ond oni bai fod pobl yn gallu dibynnu ar yr hawliau yna... i herio penderfyniadau cyrff cyhoeddus, yna mae'r ddeddf bron yn ddiwerth."

Ychwanegodd bod y ddeddf yn cynnwys "brawddegau sy'n swnio'n wych" ond "mewn gwirionedd" ni fyddai unigolion yn gallu ei defnyddio.

Disgrifiad,

Dydy'r deddf 'ddim yn cyflawni' ei phwrpas, medd Llyr Gruffydd, AC Plaid Cymru

Mae gwrthwynebwyr i ffordd osgoi'r M4 wedi awgrymu y gallai'r ddeddf fod yn ffordd o sicrhau adolygiad barnwrol o'r cynllun.

Ond mae Mr Williams yn amau hynny wedi'r penderfyniad ynghylch Ysgol Cymer Afan.

Disgrifiad o’r llun,

Sophie Howe ydy Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru

Mae'r gwaith o fonitro os yw cyrff cyhoeddus yn cydfynd â'r ddeddf yn gyfrifoldeb i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe.

Dywedodd Ms Howe ei bod wedi dilyn yr achos yn agos iawn, ond nid oedd am ymyrryd y tro hwn.

"Gan fod yr achos mewn cyfnod cynnar iawn fyddai ddim yn gosod cynsail ac oherwydd fy adnoddau cyfyngedig, er nad ydw i efallai'n cytuno gyda phob dadl neu gasgliad, ni fyddaf yn ymyrryd yn yr achos penodol yma."

Ystyriaeth 'hirdymor'

Tra bod Llywodraeth Cymru'n dweud bod dehongli'r gyfraith yn fater i'r llysoedd, ychwanegodd llefarydd bod y ddeddf yn golygu rhoi ystyriaeth i effaith "hirdymor" unrhyw benderfyniad.

"Mae hyn yn cynnwys asesu effaith hirdymor penderfyniadau anoddach a mwy dadleuol, fel os ddylai ysgol gau."

Ychwanegodd y llefarydd bod gan cod ysgolion y llywodraeth yn "gosod safon uchel i ymgynghori" cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dweud ei fod yn "hyderus" ei fod wedi cydfynd â'r oblygiadau statudol, a hynny yn dilyn "y broses ymgynghori fwyaf cynhwysfawr a thrylwyr" cyn y penderfyniad.

"Cafodd hynny ei brofi yn y llys," meddai llefarydd.