Herio penderfyniad i gau ysgol uwchradd yn y cymoedd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Cymer AfanFfynhonnell y llun, Geograph/Jaggery
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd y cyngor y bydd Ysgol Cymer Afan yn cau yn 2019

Gallai achos llys fod yn allweddol wrth brofi deddfwriaeth newydd sydd wedi'i lunio i amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.

Dyna ddadl cyfreithwyr sy'n paratoi i herio'r penderfyniad i gau ysgol uwchradd yn y cymoedd.

Fel rhan o'u cynllun Gwelliant Strategol Ysgolion, fe wnaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot benderfynu cau Ysgol Gyfun Cymer Afan, ym mhentref Cymer yng Nghwm Afan, yng Ngorffennaf 2019.

Mae'r 229 o ddisgyblion wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw symud i ysgol pob oed, Cwm Brombil ym Margam, sydd ryw 40 munud o daith iddyn nhw.

Ymhlith y rhai sy'n gwrthwynebu'r penderfyniad, mae rhieni'n dweud eu bod nhw'n ystyried addysgu eu plant yn eu cartrefi ac eraill yn bwriadu eu danfon i Ysgol Gyfun Maesteg, er ei bod dros y ffin yn ardal Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae cais am adolygiad barnwrol o'r penderfyniad i gau'r ysgol yn cael ei baratoi ar sail materion yn ymwneud â chydraddoldeb o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

'Torri'r galon o'r gymuned'

Mae'r cyfreithiwr Michael Imperato o Watkins Gunn yng Nghaerdydd yn cynrychioli aelodau o'r grŵp sy'n ymgyrchu yn erbyn y penderfyniad.

Dywedodd wrth BBC Cymru y byddai'r her gyfreithiol yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd y gymuned.

"Os ydych chi'n byw mewn cymuned wledig ble mae ysgol gyfun yn cau, gall hynny dorri'r galon allan o'r gymuned, a fy mhryder wedyn yw y bydd teuluoedd yn dechrau symud i ffwrdd," meddai.

Y gred yw mai dyma'r tro cyntaf i'r ddeddfwriaeth - sy'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried effaith hir dymor eu penderfyniadau - gael ei phrofi yn y llys.

Mewn datganiad, dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, er nad yw hi'n gallu ymyrryd mewn achosion penodol: "Rwy'n croesawi'r ffaith bod aelodau'r cyhoedd yn mynnu bod cyrff cyhoeddus Cymru yn dangos sut maen nhw'n gweithredu'r ddeddf."

Colli swyddi?

Mae disgwyl bydd Ysgol Cwm Brombil, fydd yn uno Ysgol Gyfun Dyffryn gydag Ysgol Gynradd y Groes, yn agor fis Tachwedd gyda lle i 1200 o ddisgyblion.

Cafodd yr ysgol ei hadeiladu ar gost o £30m gyda 50% o arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ymgyrch ysgolion yr 21ain ganrif.

Ysgol Gyfun Cymer Afan yw cyflogwr mwyaf ardal Cwm Afan Uchaf, wrth iddi gyflogi 23 o athrawon llawn amser a 39 o staff cynorthwyol.

Y pryder yw bydd nifer yn colli eu swyddi ar ddiwedd y flwyddyn ysgol bresennol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Evans fod "pryder arwyddocaol" am yr holl broses

Mae undeb yr NUT yn honni na wnaeth y cyngor gynnal ymgynghoriad digonol ar y cynigion a'i bod wedi methu â diogelu swyddi athrawon a staff cynorthwyol trwy beidio â chynnwys cau Cymer Afan yn eu cynlluniau gwreiddiol ar gyfer Ysgol Cwm Brombil.

Mae'r undeb yn rhybuddio ei bod nhw'n ystyried dechrau herio'r penderfyniad yn gyfreithiol hefyd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru yr NUT, David Evans: "Rydym yn aml yn gweld sefyllfaoedd lle mae ysgolion newydd yn disodli ysgolion eraill, a'n rôl ni wedyn yw sicrhau bod swyddi ym mhob ysgol yn cael eu diogelu ac wedi'u neilltuo ar gyfer yr holl staff, cynorthwywyr dysgu a staff cymorth hefyd.

"Gan nad oedd Cymer Afan wedi chwarae rhan yn nyddiau cynnar y cynllun, doedd hynny ddim yn opsiwn nac yn rhan o drafodaethau pan oedden nhw'n edrych i staffio'r ysgol newydd yn Ysgol Cwm Brombil," ychwanegodd.

"Felly mae yna bryderon arwyddocaol am y broses gyfan honno."

Dywedodd Rob Jones, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, fod yr awdurdod wedi ymgynghori'n ehangach ar gau Cymer Afan nag unrhyw gynnig i gau ysgol arall yn ei hanes diweddar ac roedd yn "100 y cant yn hyderus" ynglŷn â chadernid y broses ymgynghori a'i chanlyniad yn wyneb unrhyw heriau, boed gan brotestwyr neu'r undeb addysg.

Ychwanegodd fod y penderfyniad yn seiliedig ar "yr addysg y mae'r plant yn ei dderbyn yn unig" a phryderon nad ydyn nhw'n gallu elwa o'r cwricwlwm newydd pe bai'r ysgol yn aros ar agor.

Gallwch glywed mwy am y stori hon ar raglen 'Eye on Wales' ar BBC Radio Wales am 18:30 dydd Mercher ac ar BBC iplayer.