'Rheolau heb eu torri' cyn anaf Rali GB Cymru, Llandudno

  • Cyhoeddwyd
Heddlu yn Llandudno

Ni chafodd rheolau iechyd a diogelwch eu torri pan gafodd bachgen ifanc ei anafu'n ddifrifol yn ystod diwrnod olaf Rali GB Cymru yn Llandudno'r llynedd.

Roedd Riley Dexter, saith oed o Sheffield, yn perfformio mewn arddangosfa tîm beicio modur ieuenctid ar y prom rhwng cymalau'r brif rali.

Cafodd ei anafu ar ôl i'w feic fod mewn gwrthdrawiad â beic arall, ac aed ag ef mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl.

Does yna ddim manylion pellach wedi cael eu rhyddhau ynglŷn â'i gyflwr yn dilyn y ddamwain.

O ganlyniad i benderfyniad y Gweithgor Iechyd a Diogelwch dywedodd Cyngor Conwy na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.

"Fe allai'r cyngor gadarnhau na chafodd unrhyw reolau Iechyd a Diogelwch eu torri," meddai datganiad ar ran y cyngor sir.

"Dyw'r cyngor ddim yn cymryd unrhyw gamau pellach.

"Mae pawb perthnasol wedi cael gwybod am gasgliadau'r ymchwiliad."

Riley oedd Pencampwr British Mini Bike JSM 90 Bambino yn 2017.