Adfer gwasanaeth trên uniongyrchol o Wrecsam i Lerpwl
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth rheilffordd sy'n cysylltu gogledd Cymru, Sir Caer a Lerpwl bellach yn weithredol, a hynny am y tro cyntaf ers dros 40 mlynedd.
Ymhlith y 215 gwasanaeth wythnosol ychwanegol mae trenau dyddiol uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl.
Bydd dau drên rhwng Wrecsam a Lerpwl yn rhedeg yn ddyddiol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac un trên yn mynd i'r cyfeiriad arall.
Y gwelliant i drac Halton Curve yn Sir Caer sy'n gyfrifol am uwchraddio'r gwasanaeth.
Prosiect £18.75m
Mae'r trac wedi bod ar gau ers degawdau a dim ond yn gweithredu gwasanaeth achlysurol yn ystod yr haf yn unig.
Cyn dydd Llun roedd teithwyr o Wrecsam yn gorfod newid yn Bidston neu Caer er mwyn cyrraedd Lerpwl.
Roedd y gwasanaethau uniongyrchol wedi dod i ben yn y 1970au ac mae yna alwadau cyson wedi bod ers blynyddoedd i'w hadfer.
Fe adawodd y trên cyntaf o Wrecsam i Lerpwl am 06:35 fore Llun ac roedd y gweinidog trafnidiaeth Ken Skates ymhlith y teithwyr.
Mae ailagor y rheilffordd yn benllanw prosiect pum mlynedd a gostiodd £18.75m.
'Hybu twristiaeth'
Dywedodd Mr Skates: "Rwy'n falch o lansio gwasanaethau newydd Trafnidiaeth Cymru rhwng gogledd Cymru, Sir Caer a Lerpwl.
"Bob diwrnod mae miloedd yn teithio rhwng gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr sy'n golygu bod angen cysylltiadau rheilffordd ardderchog bob ochr i'r ffin."
Dywedodd Mr Skates hefyd ei fod yn hyderus y bydd y gwasanaethau newydd yn denu mwy o ymwelwyr ac yn hybu twristiaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru bod y prosiect yn dangos maint eu hymrwymiad i wella gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru.
"Mi fydd yn hwb economaidd sylweddol i'r ardal, ac mae'r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru yn darparu 215 o wasanaethau newydd sbon yr wythnos wir yn ategu ein hymrwymiad i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth well i bawb," meddai'r prif weithredwr James Price.
"Gwelwyd llawer o waith caled, ymroddiad a buddsoddi yn y prosiect hwn gan gymaint o unigolion ac asiantaethau, sy'n dangos beth sy'n bosib wrth gydweithio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2016