Pryderon am oedi cyn agor clinig hunaniaeth rhywedd
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion trawsryweddol yn flin am fod y cynllun i agor clinig hunaniaeth rhywedd cyntaf Cymru wedi'i ohirio.
Roedd y clinig i fod i agor yng Nghaerdydd ym mis Ebrill ac mae Cynghrair Cydraddoldeb Cymru wedi ysgrifennu llythyr agored i fynegi eu dicter.
Ar hyn o bryd mae'n rhaid i gleifion trawsryweddol deithio i glinig yn Llundain er mwyn cael gofal a chefnogaeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd dyddiad agor newydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan.
Yn y llythyr sydd wedi cael ei anfon at y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, mae'r gynghrair yn mynegi pryderon am effaith oedi ar restrau aros ac am yr effaith ar iechyd meddwl cleifion sy'n disgwyl i gael triniaeth.
Cafodd y cynlluniau ar gyfer clinig yng Nghymru eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn 2017.
'Angen gweithredu'
Unwaith y bydd y clinig yn agor bydd modd rhoi gofal cysylltiedig â hunaniaeth rhywedd yng Nghymru - gofal sy'n cynnwys presgripsiynau hormonau a therapi lleferydd.
Dywedodd Jenny Charles, rheolwr ymgyrchoedd Cynghrair Cydraddoldeb Cymru: "Mae pethau'n ddigon drwg fel y maen nhw. Mae pobl wedi marw tra ar restrau aros a rhai wedi lladd eu hunain.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr cyn bod niwed go iawn yn cael ei wneud i'n cymunedau."
Dywedodd Crash Wigley ar ran Stonewall Cymru: "Y broblem gyda'r drefn bresennol yw bod yn rhaid i bobl deithio i Lundain i gael triniaeth ac mae'n rhaid iddyn nhw fynd drwy system gyfeirio gymhleth yn ddiangen gyda gwasanaethau iechyd meddwl cyn eu bod yn cael eu rhoi ar y rhestr."
Dywedodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru bod cynnydd o 130% wedi bod yn y rhai sy'n cael eu cyfeirio o Gymru i'r clinig hunaniaeth rhywedd yn Llundain rhwng 2016 a 2018.
Bu'n rhaid i Stacy Winson o Gaernarfon aros am ddwy flynedd cyn cael mynd i glinig yn Llundain, a dywedodd nad yw'r daith yno'n ymarferol.
Dywedodd: "Oherwydd 'mod i'n byw yng ngogledd Cymru, mae'n cymryd tair awr a hanner i gyrraedd Llundain ac yn costio dros £100 y tro.
"Does gen i ddim llawer o arian a chewch chi ddim mo'r arian yn ôl oni bai eich bod yn cael budd-daliadau.
"Mae fy nhaith wedi bod yn anodd - pan es i at y meddyg am y tro cyntaf i ddweud 'mod i am fod yn ferch gofynnodd beth oedd yn bod arna i.
"Roedd hi'n broses gymhleth - gan gynnwys cael fy ngyrru at seicolegydd oedd yn gwrthod cydnabod mod i'n drawsryweddol. 'Nes i ystyried lladd fy hun."
'Recriwtio staff'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod ar hyn o bryd yn recriwtio staff ar gyfer y gwasanaeth yng Nghymru.
"Mae ein tîm hunaniaeth rhywedd wedi bod yn cysylltu ag arbenigwyr ar draws Prydain er mwyn dysgu o'u profiadau," meddai llefarydd.
"Ry'n ni'n ymddiheuro bod y gwasanaeth wedi cymryd yn hirach na'r disgwyl ond gan mai hwn fydd y clinig cyntaf yng Nghymru mae'n bwysig fod gan y gymuned traws ffydd yn y gwasanaeth."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cynlluniau terfynol yn cael eu gwneud ar hyn o bryd a bydd dyddiad agor yn cael ei gyhoeddi cyn hir.
"Rhaid sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cael yr arbenigedd priodol i gwrdd â gofynion cleifion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd25 Awst 2017