Cefnogwyr CPD Dinas Bangor am ffurfio clwb newydd

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed BangorFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Bangor

Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi gwneud cais i ffurfio clwb newydd wrth i bryderon am ddyfodol y clwb barhau.

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr newydd yn cael ei ffurfio ac mae cais wedi ei gyflwyno i Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer ymuno â'r pyramid Cymreig.

Daw'r datblygiadau diweddaraf yn sgil pryderon cynyddol am arweinyddiaeth y clwb.

Dywedodd Cymdeithas Cefnogwyr CPD Dinas Bangor eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid ffurfio clwb newydd fel "math o yswiriant" ym mis Ebrill.

Maen nhw nawr wedi gwneud cais ffurfiol i ymuno â chynghreiriau Cymru.

Yn ôl llefarydd ar ran y gymdeithas, bydd y clwb newydd yn "parchu, yn hyrwyddo ac yn dangos gwerth yn hanes Clwb Pêl-droed Dinas Bangor.

Er hynny fe wnaeth y gymdeithas bwysleisio nad ydyn nhw'n ceisio tanseilio'r clwb presennol.