Atgyfodi hen ddadl dros enw pentref Llansantffraid-ym-Mechain

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Llansantffraid a'r llythyren 'T' wedi ei orchuddio
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ddadl ers canrifoedd dros enw'r pentref

Mae hen ddadl dros sillafiad pentref ym Mhowys wedi ei hatgyfodi wedi adroddiad newydd gan swyddogion y Comisiwn Ffiniau.

Yn 2008 fe gafodd y lythyren 't' ei thynnu o enw Llansantffraid-ym-Mechain wedi i Gyngor Powys ddweud bod y sillafiad - oedd yn dyddio o'r 1800au - yn anghywir.

Cafodd y sillafiad gwreiddiol ei adfer yn 2014.

Ond yn dilyn adolygiad o drefniadau etholiadol y sir, dolen allanol, mae adroddiad y comisiwn i weinidogion Llywodraeth Cymru yn argymell gollwng y 't' unwaith eto yn fersiwn Cymraeg yr enw.

Brigit - dyn neu dynes?

Cafodd y pentref ei enwi ar ôl eglwys oedd wedi ei chysegru i'r sant Celtaidd, Brigit.

Ond drwy gamgymeriad fe nodwyd mai dyn oedd Brigit, sy'n egluro pam fathwyd enw yn cynnwys y lythyren 't'.

Wrth argymell enwau'r wardiau yn dilyn yr adolygiad, mae swyddogion y comisiwn yn ffafrio Llansantffraid-ym-Mechain yn Saesneg, a Llansanffraid-ym-Mechain yn Gymraeg.

Mae'r cynigion yn groes i argymhellion Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, sy'n nodi y dylid defnyddio un enw yn unig - a ffafrio'r fersiwn Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Google/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Arwyddion wrth gyrraedd y pentref - heb a gyda'r llythyren sy'n destun blynyddoedd o ddadlau

Dywed y Comisiwn Ffiniau na wnaethon nhw dderbyn unrhyw sylwadau mewn cysylltiad â'r argymhelliad yn ystod ymgynghoriad,.

Ond erbyn hyn mae cynghorwyr wedi ysgrifennu at y comisiwn yn mynegi pryder.

Dywedodd y Cynghorydd Gwynfor Thomas bod yna ddadl "gryfach" dros fabwysiadu'r enw Cymraeg "cywir".

Mae hefyd yn poeni bod nifer o arwyddion yn nodi enw'r pentref wedi eu difrodi dros y 10 mlynedd diwethaf wedi i rywrai losgi'r lythyren 't' ohonyn nhw.

"Beth bynnag eich barn ar yr enw, mae hynny'n annerbyniol," meddai.

Mae disgwyl penderfyniad terfynol o fewn yr wythnosau nesaf.