Theresa May: Y Prif Weinidog a fethodd â datrys Brexit

  • Cyhoeddwyd
Theresa May yn gadael Downing StreetFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Theresa May yn Brif Weinidog am bron i dair blynedd

Theresa May oedd ail Brif Weinidog Ceidwadol benywaidd y Deyrnas Unedig - ac fel yn achos ei rhagflaenydd, Margaret Thatcher, anghytuno dros Ewrop o fewn ei phlaid ei hun ddaeth â'i chyfnod yn 10 Downing Street i ben.

Wrth gymryd yr awenau yng Ngorffennaf 2016 wedi ymddiswyddiad David Cameron, dywedodd ei bod eisiau dileu annhegwch cymdeithasol, a chyrraedd rhannau o'r DU oedd wedi'u hanwybyddu.

Ond fe fydd yn cael ei chofio'n bennaf am ei hymdrechion ofer i sicrhau Brexit wedi canlyniad y refferendwm o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Wynebodd don ar ôl ton o wrthwynebiad yn San Steffan a Brwsel i'w llinellau coch dros y telerau ymadael, a gwrthryfela mewnol a welodd ymddiswyddiad nifer o'i gweinidogion.

Roedd rhai, hyd yn oed ei beirniaid mwyaf hallt, yn gweld gwydnwch rhyfeddol ym mhenderfynoldeb Mrs May i wireddu "ewyllys y bobl".

Roedd eraill yn gweld Prif Weinidog ystyfnig oedd yn gwrthod cydnabod yr anhrefn o'i chwmpas wrth i rym lithro o'i gafael, ac yn amharod i gyfaddawdu a sicrhau consensws gyda'r lleiafrif sylweddol oedd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ffynhonnell y llun, Erfyl Lloyd Davies Photography
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynnodd Theresa May alw etholiad buan tra ar wyliau cerdded yn ardal Dolgellau gyda'i gŵr, Philip dros benwythnos Pasg 2017

Fe allai sicrhau Brexit wedi bod yn llawer haws iddi, oni bai am ei phenderfyniad yn 2017 - tra ar wyliau yn Nolgellau - i alw etholiad cyffredinol buan.

Yn hytrach na sicrhau mandad personol cryfach, fe gollodd y Blaid Geidwadol ei mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin.

Roedd yr ymgyrch yn un drychinebus ar lefel bersonol i Mrs May, wrth i'r llysenw 'Maybot' ddod i'r amlwg wedi ymddangosiadau cyhoeddus oedd yn 'brennaidd' ym marn llawer.

Bu'n rhaid dibynnu ar gefnogaeth plaid DUP - cytundeb oedd yn golygu rhoi £1bn ychwanegol i Ogledd Iwerddon.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Theresa May ei herio gan heclwr i ymddiswyddo wrth annerch cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llangollen ddechrau'r mis

Daeth yn gynyddol amlwg bod llawer o Aelodau Seneddol Ceidwadol ond yn fodlon iddi aros wrth y llyw tan roedd y DU wedi gadael yr UE.

Bu'n rhaid rhoi addewid i ildio'r awenau cyn yr etholiad nesaf yn 2022 i oroesi pleidlais o ddiffyg hyder ynddi gan ASau Ceidwadol.

Wrth i'w sefyllfa waethygu - yn rhannol wedi anerchiad teledu dadleuol yn rhoi'r bai ar ASau am y methiant i ddatrys cymhlethdodau Brexit - bu'n rhaid iddi gydnabod nad oedd ei phlaid yn dymuno iddi barhau fel arweinydd.

Cynigiodd i ymddiswyddo yn gyfnewid am gefnogaeth i'w chytundeb Brexit.

Ffynhonnell y llun, Cyngor UE
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna rwystredigaethau lu i Mrs May yn ystod trafodaethau i geisio sicrhau cytundeb gyda swyddogion yr Undeb Ewropeaidd

Daeth yn Brif Weinidog heb orfod cael ei hethol, wedi i'w gwrthwynebydd olaf yn yr ymgyrch arweinyddiaeth dynnu'n ôl.

Cafodd AS Maidenhead ers 1997 amryw o swyddi blaenllaw'r wrthblaid dan William Hague, Iain Duncan Smith a Michael Howard, ond fe dynnodd nyth cacwn i'w phen mewn araith gynhadledd yn rhybuddio bod y Torïaid yn dal yn cael eu gweld fel "y blaid gas".

Roedd yn Ysgrifennydd Cartref am chwe blynedd yn llywodraeth David Cameron - y cyfnod hiraf i unrhyw un yn y swydd - ond roedd ei hymdrechion i ad-drefnu heddluoedd yn amhoblogaidd.

Dadleuol hefyd oedd ei pholisi "awyrgylch gelyniaethus" i fynd i'r afael â lefelau mewnfudo - polisi o alltudio unigolion cyn caniatáu gwrandawiadau apêl - arweiniodd yn y pen draw at sgandal Windrush.

Mae'r ferch i ficer Eglwys Lloegr wedi ymhyfrydu yn y disgrifiad ohoni gan y cyn-Ganghellor Ceidwadol, Kenneth Clarke fel menyw "anodd" ymwneud â hi.

Roedd adroddiadau bod hyd yn oed cydweithwyr agos yn cael trafferth dyfalu beth yn union oedd ar ei meddwl, a bod dim trafod mân bethau fel y tywydd yn ei chwmni.

Os gwir y sibrydion diweddar bod Mrs May a'i gŵr wedi prynu tŷ yn ardal Dolgellau i dreulio mwy o amser yn cerdded ar y mynyddoedd, bydd digon o amser i hel meddyliau ynghylch effaith cwmwl Brexit ar ei chyfnod mewn grym a'i gwaddol.