Yr Urdd i gefnogi tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022

  • Cyhoeddwyd
Mistar Urdd ac athletwyr CymruFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mistar Urdd fydd masgot swyddogol tîm Cymru yn ystod Gemau'r Gymanwlad 2022

Urdd Gobaith Cymru fydd partner elusennol swyddogol tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.

Fel rhan o'r bartneriaeth, bydd yr Urdd yn comisiynu anthem ar gyfer tîm Cymru, i'w pherfformio gan 500 o blant Cymru.

Gobaith Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, yw y bydd y bartneriaeth yn "ysbrydoli cenhedlaeth o bobl ifanc".

Mae'r bartneriaeth yn cyd-ddigwydd â chanmlwyddiant mudiad yr Urdd, sydd bellach â 53,000 o aelodau.

Bydd yr Urdd yn ymuno â thîm Cymru yn y gemau sy'n cael eu cynnal yn Birmingham rhwng 27 Gorffennaf a 7 Awst 2022.

Mae'r Urdd eisoes yn cynnig gweithgareddau o'r fath drwy adran chwaraeon yr Urdd, gyda'r Urdd yn nodi bod "dros 100,000 o blant a phobl yn cymryd rhan bob blwyddyn".

Yn 2019, cynhaliodd yr Urdd y twrnament rygbi ieuenctid 7-bob-ochr mwyaf yng Nghymru mewn partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd Sian Lewis: "Ry'n ni'n gweld y bartneriaeth newydd a chyffrous hon gyda thîm Cymru yn bartneriaeth naturiol a synhwyrol, gyda'r ddwy ochr yn gweithio i ysbrydoli cenhedlaeth o bobl ifanc a'u hannog i ymfalchïo yn eu tîm a'u gwlad mewn digwyddiad mor uchel ei broffil".

'Cyfle cyffrous'

Bwriad y mudiad yw hyrwyddo talentau artistig a diwylliedig aelodau'r Urdd yn ystod y gemau.

Bydd un o gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2021 yn gweld yr holl enillwyr rhanbarthol yn cael eu gwahodd i sesiwn recordio'r anthem newydd, a bydd gwaith yr aelodau yn cael eu dangos yng nghanolfan diwylliannol Gemau'r Gymanwlad.

Dywedodd Cadeirydd Cymru Gemau'r Gymanwlad, Helen Phillips, bod hyn yn "gyfle cyffrous i ni wella ac i ymgysylltu ymhellach â phobl ifanc yng Nghymru".

"Mae ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc i wneud eu gorau ac i gyflawni eu dyheadau yn ffactor pwysig i ni, a diolch i enw eiconig yr Urdd a phwysigrwydd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, ry'n ni'n edrych ymlaen at eu croesawu fel partner elusennol ar gyfer Birmingham 2022," meddai.