Osian Roberts: Cysondeb Flynn yn rhoi cyfle i Gasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae tîm Casnewydd yn adlewyrchu Flynn, yn ôl Osian Roberts
Mae chwaraewyr Casnewydd newydd gerdded ar y cae yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer sesiwn ymarfer cyn rownd derfynol gemau ail gyfle Adran Dau yn erbyn Tranmere yn Wembley ddydd Sadwrn.
Ar fore heulog mae rheolwr y clwb Mike Flynn yn cysgodi ar ochr y cae yn sgwrsio gyda gwr sydd wedi cael cryn ddylanwad ar ei yrfa fel hyfforddwr pêl-droed.
Roedd Flynn yn fyfyriwr dan Osian Roberts - cyfarwyddwr technegol Cymdeithas Bêl-droed Cymru - ar ei gwrs hyfforddi, ac ar yr un cwrs â chyn-ymosodwr Arsenal a Ffrainc, Thierry Henry, ac is-reolwr Manchester City, Mikel Arteta.
Yfory bydd Flynn yn arwain ei dîm allan ar y cae yn Wembley am yr ail dro ers cymryd yr awenau yng Nghasnewydd ychydig dros dwy flynedd yn ôl.

Cafodd Mike Flynn ei benodi yn rheolwr Casnewydd yn barhaol ym mis Mai 2017
"Nid r'wbeth dros gyfnod ydy hwn [llwyddiant Casnewydd], ar un amser oedden ni'n meddwl mai tîm cwpan oedd tîm Casnewydd ac oherwydd hynny roedd rhywun yn meddwl dyna'r math o reolwr ydy Michael Flynn - y math o reolwr sy'n gallu codi tîm ar gyfer gêm fawr yma ac acw," meddai Osian Roberts.
"Ond o ran be' sydd ei angen o ran cysondeb o wythnos i wythnos 'da ni wedi gweld bellach, ar ôl wrth gwrs mynd i fewn dwy flynedd yn ôl a cadw'r tîm i fyny, y tymor yma maen nhw wedi dangos cysondeb yn enwedig tuag at ddiwedd y tymor fel mae o wedi adeiladu ei dîm.
"Ac mae'r cysondeb yna bellach yn rhan o dîm Michael Flynn a 'da ni'n gweld hynny yn wythnosol."

Fe wnaeth Casnewydd drechu Mansfield ar giciau o'r smotyn yn y rownd gynderfynol
Mae Casnewydd yn ddi-guro yn eu 12 gêm diwethaf ac mae'r rhediad yna wedi arwain at gyfle i'r clwb ennill ddyrchafiad i drydedd haen pyramid pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf ers yr 1980au.
Ar ben hynny mae Casnewydd a Flynn wedi derbyn clod am rediad arbennig yng Nghwpan yr FA, yn curo Caerlŷr a Middlesbrough cyn colli i Pep Guardiola a Manchester City yn y bumed rownd.
Yn ôl Roberts mae'r rheolwr yn haeddu'r sylw, nid yn unig am befformiadau ei dîm ar y cae, ond hefyd am y gwaith mae o'n ei wneud ar y cae ymarfer.
"Be' 'da ni'n w'bod 'efo Michael Flynn ydy ei fod o'n gymeriad, mae o'n licio jocio o gwmpas, mae o'n ddoniol ac mae o'n gwmni da a dyna'r personoliaeth sydd ganddo fo ac mae'n bwysig ei fod o'n cadw hynny.
"Ond ar yr un pryd hefyd be' 'di pobl ddim yn weld ydy'r Michael Flynn y tu ôl i'r llenni - y meddwl tactegol, y meddwl trefnus.
"Mae o wedi bod yn glyfar yn y ffordd mae o wedi arwyddo chwaraewyr ac 'efo'r chwaraewyr mae o wedi dod i fewn ar fenthyg yn ystod y tymor yma.
"Mae o hefyd wedi bod yn glyfar wrth gwrs hefo'i staff, mae o wedi dod â profiad i fewn a phobl ifanc hefyd, a pobl sy'n mynd i'w herio fo yn ogystal.
"Felly mae'r ffordd mae o wedi rhoi y darnau o'r jigsaw wedi golygu bod bob dim wedi dod ynghyd hyd yn hyn, a rŵan mae ganddo nhw un prawf enfawr o'u blaenau ddydd Sadwrn a gobeithio gallen nhw basio hwnnw hefyd."
Bydd Casnewydd yn erbyn Tranmere yn fyw o Wembley ar Camp Lawn, BBC Radio Cymru am 14:00 ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2019
- Cyhoeddwyd12 Mai 2019