Yr Urdd am greu gwersyll amgylcheddol a'i agor yn 2022
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Sian Lewis y byddai'r gwersyll yn creu mwy o swyddi newydd
Mae'r Urdd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n trawsnewid canolfan ger Crymych, Sir Benfro yn wersyll amgylcheddol.
Y bwriad ydy rhoi cyfle i bobl ifanc ddianc rhag teclynnau digidol a thyfu eu bwyd eu hunain.
Iechyd meddwl pobl ifanc a phryder am yr amgylchedd sydd wedi ysbrydoli'r cynllun, yn ôl cyfarwyddwr gwersylloedd yr Urdd.
Mae'r Urdd wedi gosod targed o £1m ar gyfer y trawsnewidiad, a fydd wedi ei gwblhau ar gyfer canmlwyddiant y mudiad yn 2022.
Agorwyd Pentre Ifan - sydd ger Felindre Farchog, Crymych - yn 1992.
Bydd y cynllun yn adnewyddu'r neuadd bresennol ac yn creu llety yn y pedwar adeilad arall ar y safle.
Mae'r Urdd yn rhagweld y bydd lle i 40 o bobl, a bydd cyfleusterau arlwyo ac ymolchi sy'n defnyddio pŵer solar.

Dywedodd yr Urdd bod rhaid gweithredu cyn i'r adeiladau ddirywio nes bod dim modd eu defnyddio
Dywedodd Lowri Jones, cyfarwyddwr gwersylloedd yr Urdd bod "to o ieuenctid sydd wir angen hyn".
"Fi'n meddwl ein bod ni'n gweld mwy a mwy o bethe' yn y wasg o ran iechyd meddwl pobl ifanc.
"Mae'r Urdd yn gweld hyn yn gyfle i weithredu i helpu pobl ifanc o ran eu gwydnwch nhw, a hefyd heb os, mae'r amgylchedd yn meddwl gymaint i bobl ifanc dyddie' yma.
"Dwi wir yn meddwl bydd pobl ifanc a rhieni yn gweld budd yn hyn."
Esboniodd bod y cynllun hefyd yn ymateb i'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i wersylloedd yr Urdd, gyda 24,000 o bobl ifanc yn aros yn Llangrannog yn 2018.
Dywedodd yr Urdd eu bod "mewn trafodaethau" gyda phartneriaid ynghylch ariannu'r cynllun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2019
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019
- Cyhoeddwyd27 Mai 2019