Galw am ymddiswyddiad o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Ysbytai Brenhinol Morgannwg a'r Tywysog Siarl
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaethau mamolaeth wedi eu rhannu rhwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles

Mae arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi galw am newid rheolwyr Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Mewn llythyr at brif weithredwr y bwrdd, Allison Williams, a chadeirydd y bwrdd, yr Athro Marcus Longley, dywedodd y cynghorydd Andrew Morgan nad oes ganddo bellach hyder ynddyn nhw.

Fe ddaw'r alwad yn dilyn cyfres o adroddiadau beirniadol o'r bwrdd iechyd, ac yn benodol o wasanaeth mamolaeth yn yr ysbytai o fewn yr ardal.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd eu bod nhw'n derbyn darganfyddiadau'r adroddiad, a'u bod yn benderfynol o ymateb i'r pryderon sydd wedi codi.

Cafodd gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles eu rhoi o dan fesurau arbennig ym mis Ebrill.

Mae Mr Morgan hefyd wedi dweud wrth y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething am ei lythyr a'i benderfyniad.

Andrew Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen "ateb y pryderon difrifol yma ar y cyfle cyntaf", yn ôl Mr Morgan

'Camarweiniol'

Yn ei lythyr fe ddywedodd arweinydd y cyngor: "Mae negeseuon yr wyf wedi eu derbyn gan reolwyr y bwrdd wedi bod yn anghyson, nid yn unig o safbwynt gwybodaeth gan aelodau ond hefyd o ran cofnodion o gyfarfodydd ac adroddiadau o brofiadau cleifion.

"Fe wnaeth adroddiad Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynecolegwyr nodi fod aelodau o'r bwrdd wedi derbyn negeseuon camarweiniol, ac o fy mhrofiad i wrth godi materion rwy'n teimlo i mi gael fy nghamarwain am ddifrifoldeb methiannau yn y gwasanaeth mamolaeth."

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn teimlo fod angen "newid ar y top" ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg am ei bod yn bwysig fod un o brif bartneriaid y bwrdd â hyder mewn gwasanaethau iechyd lleol.

Mae'n gorffen drwy ddweud: "Rwyf felly'n galw ar y prif weithredwr i ystyried ei sefyllfa, ac ar y bwrdd i ystyried yr opsiynau i ateb y pryderon difrifol yma ar y cyfle cyntaf."

Allison WilliamsFfynhonnell y llun, Senedd.TV
Disgrifiad o’r llun,

Mae Allison Williams wedi bod yn brif weithredwr ers 2011

Mae'r dyn sy'n arwain panel annibynnol i oruchwylio gwelliannau yn adran mamolaeth Cwm Taf Morgannwg eisoes wedi dweud na fydd yn oedi cyn awgrymu newidiadau personél os bydd angen.

Cafodd Mick Giannasi ei benodi gan y Gweinidog Iechyd ar ôl i wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles gael eu rhoi o dan fesurau arbennig.

Fe gyfaddefodd Mr Giannasi fod yr adolygiad ym mis Ebrill yn "frawychus" ac yn "anodd ei ddarllen".

Gallai'r panel o dan ei ofal edrych ar achosion o ofal gwael - gan gynnwys marwolaethau babanod - dros gyfnod o ddegawd.

Addawodd y byddai'r panel yn "gadarn" ac yn herio Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wrth gyflwyno gwelliannau.

Mick Giannasi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mick Giannasi yn gyn-brif gwnstabl Heddlu Gwent ac yn gyn-gadeirydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd eu bod nhw'n "ymddiheuro yn ddiamod" am y gofid a achoswyd i deuluoedd.

"Mae pob mater sydd wedi ei amlygu yn yr adroddiad yn cael ei gymryd o ddifrif, ac mae gwaith eisoes yn cael ei wneud i wella'r gwasanaethau rydyn ni'n ei gynnig i famau a'u babanod," meddai.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ein gwasanaeth mamolaeth mewn mesurau arbennig ac rydyn ni'n croesawu'r gefnogaeth ychwanegol fydd ar gael i ni."

Ychwanegodd eu bod nhw'n benderfynol o wneud gwelliannau a sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu'n llawn.