Sêl bendith i gynllun ehangu trac rasio ym Môn

  • Cyhoeddwyd
Safel Trac MônFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae digwyddiadau rasio ceir yn cael eu cynnal ar yr hen safle milwrol ers 1992

Mae cais i ehangu trac rasio ar Ynys Môn wedi cael sêl bendith swyddogion cynllunio.

Mae'r gwelliannau i safle Trac Môn yn Nhŷ Croes ger Aberffraw yn cynnwys newidiadau i osodiad y trac i wella diogelwch, a chodi nifer o adeiladau yn lle rhai dros dro.

Wrth gyflwyno'r cais, dywedodd y cwmni eu bod yn gobeithio denu 40,000 yn rhagor o ymwelwyr bob blwyddyn, a bod hynny â'r potensial i gyfrannu rhyw £2m y flwyddyn i economi'r sir.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod wedi methu â denu nifer o ddigwyddiadau i'r safle yn y gorffennol oherwydd prinder adnoddau croeso "priodol".

Mae'r cynlluniau llawn, a gafodd eu cymeradwyo heb orfod mynd o flaen pwyllgor cynllunio, yn cynnwys dymchwel nifer o adeiladau dros dro a chodi:

  • Swyddfa ar gyfer timau rasio beics a chanolfan iechyd;

  • Adeilad yn cynnwys siop, swyddfa ac ysgol rasio gyda phympiau tanwydd cyfagos;

  • Estyniad i'r ardal badog fel bod mwy o le ar gyfer cerbydau ategol;

  • Bwyty deulawr, safle byrbrydau a theras;

  • Bloc cawodydd;

  • Addasiadau i'r garejys a'r tŵr rheoli presennol.

'Angen cymharu'n ffafriol'

Yn ôl datganiad oedd ynghlwm â'r cais cynllunio mae "nifer o ddigwyddiadau yn y gorffennol agos, a fyddai wedi bod yn fuddiol iawn i'r trac a Chymru gyfan, wedi gwrthod dod i Drac Môn gan nodi diffyg adnoddau croeso fel y prif reswm.

"Mae yna amcangyfrif y byddai'r digwyddiadau yma yn unig wedi cyfrannu dros £600,000 i'r economi leol, gan gefnogi 9.5 o swyddi llawn amser.

"Ar ben hynny, mae rhai o'r digwyddiadau y mae'r trac yn eu cynnal ar hyn o bryd yn cael eu hystyried yn rhai sydd 'dan fygythiad' oherwydd diffyg buddsoddi mewn adnoddau priodol."

Dywed rheolwyr y bydd y newidiadau'n eu helpu "i gystadlu â chymharu'n ffafriol â thraciau rasio ceir eraill yn y DU a thramor", gan greu 44 o swyddi adeiladu.

Ychwanegodd y datganiad bod angen cynnig gwell adnoddau na'u cystadleuwyr gan fod lleoliad "ymylol" Trac Môn yn golygu teithiau hirach i nifer fawr o gwmseriaid.

Dywedodd Pennaeth Datblygu Economaidd Cyngor Môn, Dylan Williams bod y trac yn atyniad pwysig "sy'n cyfrannu at statws Gogledd Cymru fel canolfan twristiaeth antur".

"Rydym yn falch ein bod wedi gallu cefnogi'r cais cynllunio,"meddai, "ac yn gobiethio y bydd modd cwblhau'r gwelliannau yn gyflym i wella safon y trac a hybu economi yn lleol ac yn rhanbarthol."