Marwolaeth babi a'i modryb yn ddamwain, medd crwner
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed fod babi chwe mis oed a'i modryb wedi marw ar ôl i'r car roedden nhw'n teithio ynddo wyro i lwybr lori yng Ngwynedd.
Bu farw Mili Wyn Ginniver o Flaenau Ffestiniog, oedd yn chwe mis oed, ac Anna Williams, 22 o Benrhyndeudraeth, yn y gwrthdrawiad ger pentref Gellilydan ym mis Ionawr 2018.
Clywodd y cwest nad oedd mam Mili, Sioned Williams, oedd yn gyrru'r car, yn gallu cofio unrhyw beth am y digwyddiad.
Wrth gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol, dywedodd y Crwner Dewi Pritchard-Jones fod yr achos yn un "arbennig o drasig" gan fod y gyrrwr wedi colli ei merch a'i chwaer yn y digwyddiad.
Dim awgrym o oryrru
Dywedodd gyrrwr y lori, Michael Gaffney, ei fod yn teithio o ardal Gellilydan am Faentwrog ar yr A487 ar y pryd.
Wrth iddo gyrraedd tro yn y ffordd, gwelodd gar Ford Fiesta oedd yn dod o'r cyfeiriad arall yn gwyro i ochr anghywir y ffordd o'i flaen.
Dywedodd nad oedd yn gallu gwneud unrhyw beth i'w osgoi.
Clywodd y cwest gan arbenigwyr nad oedd unrhyw beth o'i le ar yr un o'r cerbydau, ac nad oedd unrhyw dystiolaeth eu bod yn goryrru.
Yn dilyn ymgyrch gan drigolion lleol, mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn ystyried gosod cyfyngiad cyflymdra o 40mya ar y ffordd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2018