Triniaeth menyw â TB yn 'ffieiddio' teulu mewn galar

  • Cyhoeddwyd
plant Margaret
Disgrifiad o’r llun,

Joanna a Jonathan gyda llun o'u mam, Margaret, a fu farw ym mis Medi 2018

Mae plant menyw 64 oed fu farw o glefyd twbercwlosis (TB) wedi dweud eu bod nhw wedi'u "ffieiddio" gyda'r ffordd y cafodd eu mam ei thrin.

Yn ôl mab a merch Margaret Pegler, bu hi farw bum diwrnod yn unig ar ôl cael gwybod bod ganddi'r afiechyd fis Medi'r llynedd.

Dywedodd Joanna a Jonathan wrth BBC Cymru eu bod nhw wedi cwyno'n ffurfiol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am y ffordd y cafodd ei thrin.

Mae'r BBC wedi gofyn i'r bwrdd iechyd am sylw.

Dywedodd arbenigwyr ddydd Iau bod 29 o bobl wedi eu heffeithio yn ardal Llwynhendy yn Sir Gâr ers 2010 - gydag un farwolaeth.

Mae pum aelod o deulu Mrs Pegler wedi cael eu heffeithio ac wedi derbyn triniaeth.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) bod tua 80 o bobl sydd wedi dod i gyswllt gyda phobl â'r afiechyd yn cael eu gwahodd i sesiynau sgrinio ym mis Mehefin.

Yn ogystal mae galwad gan ICC i bobl allai fod wedi dod i gysylltiad â'r clefyd yn nhafarn y Joiners Arms rhwng 2005 a 2018 i gael prawf.

Disgrifiad o’r llun,

Margaret Pegler (ar y dde) gyda'i hefaill, Elizabeth

'Dim gwybodaeth am TB'

Yn ôl Joanna Pegler, cafodd ei mam ei tharo'n wael ym mis Mehefin y llynedd cyn cael diagnosis o TB ar 14 Medi. Bu farw ar 19 Medi.

Dywedodd Joanna Pegler fod ei mam wedi cael ei hanfon o'r ysbyty ar 10 Awst am nad oedd lle iddi yno.

Fe soniodd y teulu am eu rhyddhad o glywed mai TB oedd arni, gan eu bod nhw wedi ofni bod ganddi ganser yr ysgyfaint.

Daeth criw ambiwlans i ymweld â Mrs Pegler ar 17 Medi am nad oedd hi'n teimlo'n dda.

Ond, yn ôl Joanna, roedd y criw ambiwlans yn "gweiddi" ar y teulu am nad oedden nhw'n gwisgo mygydau a dillad priodol.

Ffynhonnell y llun, Jaggery | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae ICC eisiau siarad â phobl allai fod wedi dod i gysylltiad â chlefyd TB yn y Joiners Arms rhwng 2005 a 2018

Dywedodd Joanna na chafodd y teulu gyngor meddygol am TB.

Ychwanegodd: "I fod yn onest, dwi wedi fy ffieiddio. Pe byddai hi wedi cael ei sganio ar 10 Awst bydden ni wedi gwybod yn gynt. Roedd ganddi apwyntiad am y sgan.

"Ry'n ni wedi gwneud cwyn i'r ysbyty. Ry'n ni moyn atebion."

Dywedodd Joanna nad oedd ei mam yn mynd i'r Joiners Arms yn aml, ond ei bod wedi bod yno am fwyd ambell waith ar hyd y blynyddoedd.

Bydd sesiynau sgrinio yn y dafarn ar 4-5 Mehefin, a hefyd yng Nghanolfan Iechyd Llwynhendy a stadiwm Parc y Scarlets.