Llofruddiaeth Caerdydd: Cyhoeddi enw dyn 18 oed
- Cyhoeddwyd
![Fahad Mohamed Nur](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/585D/production/_107212622_ea2dafd0-0d02-4523-bd9b-08f06ee9867f.png)
Dywedodd yr heddlu bod Mr Nur wedi marw "mewn amgylchiadau ofnadwy"
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd yn oriau man fore Sul.
Fe gafodd swyddogion eu galw i ardal y tu ôl i orsaf drenau Cathays ychydig cyn 00:30 yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi'i drywanu.
Cafodd Fahad Mohamed Nur, 18 oed, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru wedi'r digwyddiad, lle bu farw o'i anafiadau.
Mae teulu Mr Nur bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
![gorsaf Cathays](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1505E/production/_107201168_cathays.jpg)
Fe gafodd yr heddlu eu galw i ardal y tu ôl i orsaf drenau Cathays
Cafodd dau ddyn, 18 ac 19 oed, eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ond mae'r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau ac ni fydd camau pellach yn cael eu cymryd yn eu herbyn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Mark O'Shea bod "dyn ifanc wedi colli ei fywyd mewn amgylchiadau ofnadwy" a bod Heddlu De Cymru "yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddarganfod y sawl sy'n gyfrifol".
"Mae Cathays yn ardal prysur iawn a gwyddwn fod llawer o bobl yng nghyffiniau Undeb y Myfyrwyr a thafarn y Woodville a all fod wedi gweld neu glywed rhywbeth."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2019