Cyflwr anhwylder cyn mislif wedi arwain at hysterectomi

  • Cyhoeddwyd
Sarah Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah Williams wedi sefydlu grŵp cymorth yn dilyn ei phrofiadau personol

Fe benderfynodd Sarah Williams gael llawdriniaeth hysterectomi, gymaint oedd y boen oherwydd anhwylder disfforig difrifol cyn mislif (PMDD).

Mae'r fenyw 48 oed o Borthcawl yn un o tua 800,000 sy'n dioddef gyda'r cyflwr yn y DU.

Dywedodd fod y cyflwr wedi ei heffeithio ers ei bod yn ei harddegau, gan arwain at golli tymer ac iselder dwys.

Chwalodd mwy nag un perthynas a bu'n rhaid iddi hefyd roi'r gorau i'w swydd.

Erbyn hyn mae wedi penderfynu sefydlu grŵp cymorth er mwyn rhoi help i fenywod eraill sy'n dioddef.

Mae union achos PMDD yn parhau yn ddirgelwch, ond mae'n achosi newid mewn ymddygiad a phoen corfforol yn y dyddiau cyn mislif.

Mae'r symptomau emosiynol yn gallu amrywio o deimladau o bryder, anobaith, yn flin a diffyg egni.

Yn gorfforol, mae'n gallu achosi dolur pen, problemau cysgu, a phoen neu chwydd yn y bronnau.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Sarah y penderfyniad anodd i gael llawdriniaeth hysterectomi

Yn ôl Sarah, roedd y symptomau yn amhosib i'w dioddef.

"Roedd yna adegau pan ddigwyddodd pethau ar achlysuron teulu pwysig, fe wnaeth e dorri fy nghalon yn llwyr," meddai.

"Y tro olaf iddo ddigwydd, fe es at fy meddyg teulu a dweud 'rhaid i hyn stopio - dwi angen help'."

'Penderfyniad anferth'

Dywedodd iddi gael diagnosis o iselder yn y gorffennol gan wybod fod hyn yn anghywir.

Unwaith iddi ddechrau cofnodi ei symptomau, daeth yn eglur eu bod yn cyd-fynd â'r mislif.

Cafodd gyfres o driniaethau drwy chwistrelliadau i roi stop ar y mislif, ac yna yn Nhachwedd 2018, fe wnaeth y fam i ddau gymryd y penderfyniad anodd i gael hysterectomi.

"Mae'n rhaid ei fod e'n ofnadwy o beth i berson ifanc orfod gwneud dewis o'r fath. Mae'n benderfyniad anferth," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Richard Penketh bod angen 'addysgu pobl'

Dywedodd Dr Richard Penketh, gynecolegydd ymgynghorol yng Nghaerdydd, fod rhai o'r achosion mwyaf dwys i'w gweld mewn menywod yn eu harddegau.

"Roedd un claf, merch ifanc, [wedi] ei hanfon i uned seiciatrig oherwydd ei bod yn hunan anafu - ond fod hynny'n cyd-fynd â phatrwm penodol.

"Fe wnaethom lwyddo i rwystro ei mislif ac yn y pendraw datrys y broblem, ac mae hi nawr wedi symud ymlaen ac wedi pasio ei harholiadau lefel A."

Dywedodd yr ymgynghorydd y dylai Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau feddwl yn ddwys ynglŷn ag addysgu pobl ifanc ynglŷn â'r pwnc a'u lles.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd iechyd merched yn "hynod ddifrifol" a'u bod wedi sefydlu grŵp penodol i gael mewnbwn i bolisi ar achosion o'r fath.

  • Bydd rhaglen BBC Wales Live i'w gweld ar 5 Mehefin BBC 1 Cymru am 22:30.