Llofruddiaeth Caerdydd: Teyrnged i ddyn 'hael a charedig'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 18 oed fu farw yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafodd Fahad Mohamed Nur ei ddarganfod gan yr heddlu y tu ôl i orsaf drenau Cathays ychydig cyn 00:30 fore Sul.
Roedd Mr Nur wedi cael ei drywanu, a bu farw o'i anafiadau ar ôl cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywedodd y teulu, sydd yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol, bod "colled enfawr ar ei ôl".
Ychwanegodd datganiad y teulu: "Nid oes unrhyw un tebyg i Fahad. Roedd yn hael ac yn garedig iawn gyda'i ffrindiau a'i deulu.
"Fe oedd yr un i wneud i chi chwerthin... rydyn ni wir wedi ein llorio."
Cafodd dau ddyn, 18 ac 19 oed, eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ond mae'r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau ac ni fydd camau pellach yn cael eu cymryd yn eu herbyn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Mark O'Shea bod Heddlu De Cymru "yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddarganfod y sawl sy'n gyfrifol".
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2019