'Profiadau plentyndod yn gallu arwain at drais domestig'
- Cyhoeddwyd
Mae unigolion sydd yn yfed yn drwm yn fwy tebygol o fod yn dreisgar os oedden nhw wedi cael plentyndod anodd, yn ôl astudiaeth newydd.
Dywed yr astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor fod y cysylltiad rhwng ymddygiad treisgar a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn arbennig o amlwg ymysg dynion ifanc rhwng 18 a 29 oed.
Yn ôl yr ymchwil mae 62% o'r rheini sydd wedi cael nifer o brofiadau niweidiol ac yn yfed yn drwm wedi taro rhywun yn y 12 mis diwethaf.
Mae hyn yn cymharu â 13.5% o yfwyr trwm sydd heb gael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Fe edrychodd yr astudiaeth ar 12,669 o achosion yng Nghymru a Lloegr rhwng 2012 a 2015.
Er bod y ffigyrau yn is, dangosodd yr ymchwil fod yr un tueddiadau yn bodoli ymysg menywod.
Roedd 25% o fenywod rhwng 18 a 29, sydd yn yfwyr trwm ac wedi cael profiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod, wedi taro rhywun o fewn y flwyddyn ddiwethaf.
'Anoddach rheoli emosiynau'
Dywedodd yr Athro Mark Bellis o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydyn ni'n gwybod fod pobl sy'n dioddef lefelau uchel o brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod yn gallu gweld hi'n anodd rheoli eu hemosiynau, gan gynnwys teimladau ymosodol.
"Mae'r canlyniadau yn awgrymu fod yfed yn drwm yn erydu'r rheolaeth yma ymhellach, ac felly yn cynyddu'r risg o fod yn dreisgar.
"Yn anffodus, mae'r canlyniadau hefyd yn awgrymu fod unigolion cafodd eu cam-drin yn ystod eu plentyndod... yn fwy tebygol o fod yn yfwyr trwm," meddai.
Ychwanegodd eu bod wedi canfod fod y cyfuniad o yfed trwm a thrawma yn ystod ieuenctid i'w weld yn un o bob 20 dyn gafodd eu holi.
Ymysg darganfyddiadau eraill yr astudiaeth oedd cysylltiad rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a bod yn ddioddefwr trais.
Yn ôl yr Athro Karen Hughes o Brifysgol Bangor, os ydych chi'n taro rhywun, yna rydych chi'n fwy tebygol o gael eich taro.
"Efallai fod hyn yn rhannol esbonio pam fod pobl sy'n yfed yn drwm ac sydd â hanes o brofiadau niweidiol yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwr diweddar o drais," meddai.
"Efallai bod rhai menywod sydd wedi bod trwy brofiadau niweidiol yn credu fod hyn i'w ddisgwyl mewn perthynas, ac yn dewis aros mewn perthynas niweidiol gan ddefnyddio alcohol fel modd o ymdopi â'r sefyllfa."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2018