Cyn-gynghorydd yn ceisio am iawndal dros sŵn awyrennau

  • Cyhoeddwyd
John Arthur Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Arthur Jones ei garcharu yn 2016 am beryglu awyrennau'r Awyrlu drwy anelu goleuadau at beilotiaid

Mae cyn-gynghorydd o Ynys Môn a'i wraig yn ceisio cael dros £250,000 mewn iawndal gan y Weinyddiaeth Amddiffyn gan ddadlau bod sŵn awyrennau'r Awyrlu yn amharu ar eu heiddo a'u hawliau dynol.

Yn ôl dogfennau achos Uchel Lys sydd newydd eu cyhoeddi, mae John Arthur Jones a'i wraig Rhian hefyd yn ceisio atal awyrennau'r Awyrlu rhag hedfan ger safle Parc Cefni ym Modffordd oni bai bod argyfwng.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwrthod dadleuon y cwpwl, gan ddweud bod peilotiaid wedi hyfforddi o feysydd awyr yr Awyrlu ym Mona a'r Fali ers y 1950au.

Cafodd Mr Jones ei ddedfrydu i 18 mis o garchar yn 2016 ar ôl i Lys y Goron Yr Wyddgrug ei gael yn euog o 13 o gyhuddiadau o beryglu awyrennau'r Awyrlu drwy anelu goleuadau llachar at beilotiaid oedd yn eu hedfan.

Yn ystod yr achos hwnnw fe glywodd y llys bod yr awyrennau wedi dod yn obsesiwn i Mr Jones, oedd yn gyn-gyfarwyddwr tai Cyngor Sir Ynys Môn cyn cael ei ethol yn gynghorydd sir.

'Annioddefol'

Fe brynodd Mr a Mrs Jones eu cartref a thir Parc Cefni yn 2003, gan sefydlu parc busnes ar y tir a chael caniatâd cynllunio i godi parc gwyliau yn cynnwys 22 o gabanau pren, carafannau, salon iechyd a harddwch ac ardal chwarae i blant.

Yn ôl y gwrit i'r Uchel Lys yn Llundain, mae wedi bod yn amhosib gwerthu'r safle ers iddo gael ei roi ar y farchnad am £2.25m ers 2016.

Mae'r ddogfen hefyd yn datgan bod pris gosod cabanau gwyliau ar y safle wedi gostwng 45% oherwydd sŵn yr awyrennau, sydd yn "ormodol ac annioddefol" yn ôl y cwpwl.

Ffynhonnell y llun, Yr Awyrlu Brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Awyrlu bod peilotiaid sy'n hyfforddi i hedfan awyrennau fel yr Hawk eisoes yn osgoi safle Parc Cefni

Maen nhw'n honni bod y sŵn yn aml dros 100 desibel a cymaint â 130 desibel ar brydiau, gan effeithio ar geffylau Mrs Jones a thenantiaid busnes.

Mae'r cwpwl yn gofyn am ddatganiad cyfreithiol fyddai'n atal yr Awyrlu rhag hedfan o fewn 550 o fetrau i'w tir, oni bai bod argyfwng, gan orfodi'r Awyrlu i e-bostio manylion unrhyw argyfwng o fewn 24 awr.

'Cyfreithlon a hanfodol'

Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn yn eu dogfennau nhw yn gwrthod yr achos bod meysydd awyr Mona a'r Fali wedi eu sefydlu ers yr Ail Ryfel Byd yn 1941 a bod peilotiaid yn hyfforddi yno ers y 1950au.

Yn ôl y dogfennau mae'r hediadau'n cael eu rheoli'n briodol, mae peilotiaid yn ymwybodol na ddylen nhw hedfan dros Barc Cefni, ac mae nifer yr hediadau wedi gostwng yn gyson ers 2003.

Mae'r papurau hefyd yn nodi bod y cwpwl heb gwyno tan Hydref 2010, ar ôl newid defnydd y safle pum erw - safle yr oedden nhw wedi ei brynu gan wybod bod yr Awyrlu â safleoedd gweithredol yn yr ardal.

Mae'r amddiffyn yn gwadu bod yr Awyrlu'n creu niwsans, gan ddadlau bod yr hediadau yn gyfreithlon ac yn hanfodol er lles y cyhoedd a diogelwch y deyrnas.

Maen nhw'n gwrthod y ddadl bod sŵn awyrennau'n amharu ar hawliau dynol y cwpwl, ac yn dweud bod dim angen datganiad cyfreithiol gan fod disgwyl eisoes i beilotiaid osgoi hedfan dros Barc Cefni.