Jayne Ludlow ymysg y Cymry ar restr anrhydeddau'r Frenhines
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru ymhlith y Cymry sydd wedi eu cynnwys ar restr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines.
Mae Jayne Ludlow yn derbyn MBE am ei chyfraniad i'r gêm ar bob lefel - o lawr gwlad i'r llwyfan rhyngwladol.
Am ei gwasanaeth i Lywodraeth Cymru ac i'r byd darlledu, mae'r Athro Elan Closs Stephens yn derbyn anrhydedd y DBE.
Mae rhestr eleni hefyd yn cydnabod y Dr Anne Kelly am ei gwaith gyda dioddefwyr caethwasiaeth.
Mae sylfaenydd y cwmni Moneypenny, Rachel Clacher yn cael y CBE am ei chyfraniad i'r byd busnes ac i fentrau sy'n helpu pobl ifanc difreintiedig.
Ymysg yr enwau eraill ar y rhestr mae'r cyn-athletwr a chwaraewr rygbi, Nigel Walker (OBE), y comedïwr Griff Rhys Jones (OBE), y rhedwr marathon, Steve Jones (MBE), a'r nofelwraig, Sarah Waters (MBE).
Wedi ei 'syfrdanu'
Dywedodd Ms Ludlow, sy'n dod o'r Barri, bod yr anrhydedd wedi ei "syfrdanu".
Ychwanegodd: "Mae pobl sydd fel arfer yn cael y math yma o anrhydedd wedi rhoi llawer o amser ac ymdrech i rywbeth maen nhw'n angerddol yn ei gylch, a dyna beth yw hwn i mi. Pêl-droed yw fy mywyd."
Wrth longyfarch y Fonesig Closs Stephens, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei bod "yn ysbrydoliaeth i ni oll".
"Yn ystod ei gyrfa nodedig, mae Elan wedi gwneud cyfraniad eithriadol wrth hyrwyddo'r cyfryngau a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
"Gan arddangos ymroddiad anhygoel, mae ei hymroddiad gydol oes i wasanaethau cyhoeddus a'i harweinyddiaeth hynod effeithiol wedi ei gwneud yn berson y mae llywodraethau yn troi ati pan mae materion dyrys yn codi."
Dywedodd Dr Kelly, sy'n 78 oed ac o Saundersfoot, mai "trwy ddamwain" yr aeth ati i weithio gyda dioddefwyr caethwasiaeth modern yn 2006 ar ôl trefnu digwyddiad yn nodi 200 mlynedd ers dod â chaethwasiaeth i ben ym Mhrydain.
"Fe wnes i gael fy synnu gyntaf pan glywes i am achos yn ardal Penalun, ger Dinbych-y-pysgod," meddai.
"Roedd merched ifanc o Affrica wedi cael eu smyglo yno a'u cadw yn gaeth, ac yna'n cael eu hanfon i wahanol rannau o Brydain."
Ers hynny mae wedi gweithio'n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys ac elusen Barnardo's Cymru i ymchwilio i hyd a lled y broblem yng Nghymru, ac mae nawr yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig.
Dywedodd: "Mae'n drosedd ofnadwy. Mae llawer o bobl yn gweithio yn y maes nawr, diolch i'r drefn, ac mae Cymru'n arwain y gad.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl gwobr o gwbl ond mae'n anrhydedd... mae codi ymwybyddiaeth yn bwysicach i mi nag unrhyw foddhad ar lefel bersonol."
Yn ogystal mae Dr Rhian Mari-Thomas, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, yn derbyn yr OBE am ei chyfraniad i fancio gwyrdd - mae hi newydd ei phenodi yn bennaeth bancio gwyrdd Barclays.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2017