Ymgyrch i ddenu cwsmeriaid i fusnesau lleol

  • Cyhoeddwyd
Caffi Deli LlambedFfynhonnell y llun, Caffi Deli Llambed
Disgrifiad o’r llun,

Mae caffi yn Llambed ymhlith y busnesau lleol sy'n rhan o 'fiver fest'

Mae busnesau yn nhrefi Llambed, Cil-y-coed, Crug Hywel a Chasnewydd ymhlith y rhai a fydd yn annog pobl i gefnogi mentrau annibynnol yr wythnos hon.

Mae cannoedd o siopau annibynnol mewn 40 tre ar draws Prydain yn cymryd rhan yn ymgyrch "fiver fest" er mwyn dangos pwysigrwydd busnesau lleol i'r economi.

Bydd pob busnes yn cynnig bargeinion £5 er mwyn denu pobl i ymweld â siopau lleol ar y stryd fawr.

Yn ôl grŵp Totally Locally petai pawb yn y DU yn gwario £5 yr wythnos mewn siop leol mi fyddai £13.5 biliwn yn cael roi'n ôl i gymunedau lleol.

'Siopa ar-lein yn fygythiad'

Yn ôl Malorie Saad sy'n cyd-redeg Caffi Deli yn Llambed gyda'i gŵr mae'n syniad arbennig o dda. Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd mai dyma'r ail flwyddyn iddyn nhw fel busnes i wneud hyn a llynedd ei fod wedi gweithio yn arbennig o dda.

"Beth fyddai'n 'neud," meddai, "yw cynnig platters sydd fel arfer yn costio £8 am £5 - mae hyn gobeithio yn mynd i ddenu pobl newydd drwy'r drysau.

"Mae'n gyfle hefyd i bobl leol drio bwyd newydd."

Wrth gael ei holi am y gystadleuaeth sy'n bodoli dywedodd bod siopa ar-lein wedi newid pethau yn fawr.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl siop ar stryd fawr Llanbedr Pont Steffan wedi cau ei drysau dros y 5 mlynedd diwethaf

"Mae lot o bobl nawr yn prynu bwyd ar-lein yn hytrach nag yn lleol.

"Mae'n rhaid i ni fusnesau bach weithio gyda'n gilydd a gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod pwysigrwydd gwario'n lleol - dyna yw'r unig fordd i gadw busnesau lleol ar agor a chadw bywyd yn ein trefi.

"Fe agoron ni ein busnes ni ddeg mlynedd yn ôl a mae pethe dipyn tawelach erbyn hyn - yn ystod y misoedd diwethaf bydden i'n gweud bod y dre yn lot tawelach o ran pobl.

"Mae ymgyrch fel hon yn holl bwysig."

Bydd ymgyrch "fiver fest" yn para am wythnos.