35,000 all golli eu golwg yn aros am driniaeth arbenigol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Gordon Harries ei fod yn ffonio am apwyntiad yn gyson, ond nad oedd un ar gael

Mae bron i 35,000 o bobl sydd mewn perygl o golli eu golwg yn aros yn rhy hir am ofal llygaid, yn ôl ystadegau newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r llywodraeth wedi cyflwyno targed newydd gyda'r nod o sicrhau fod cleifion sydd â'r cyflyrau mwyaf difrifol yn cael eu trin yn gynt.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod bron i 35% o'r holl gleifion sydd â'r risg uchaf o golli eu golwg yn aros yn hirach na'r amser targed, ac nad oes unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru wedi cyrraedd y targed o weld 95% o'r achosion mwyaf difrifol ar amser.

Y bwrdd iechyd a berfformiodd waethaf oedd Caerdydd a'r Fro lle'r oedd bron i hanner (48.6%) y cleifion gyda'r risg uchaf yn aros yn hirach.

Mae RNIB Cymru wedi disgrifio'r ffigyrau fel rhai "hynod o bryderus".

Fodd bynnag, mae'r elusen a meddygon blaenllaw wedi croesawu cyhoeddi'r targed newydd fel "trobwynt" o ran deall sut i gyflymu gofal a lleihau oedi.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy na £10m i fyrddau iechyd i wella gwasanaethau gofal llygaid.

Y gofal yn 'warthus'

Mae Gordon Harries o Geredigion yn byw â retinopathi diabetig, cyflwr sy'n effeithio ar ansawdd ei olwg.

Dechreuodd golli ei olwg dros 20 mlynedd yn ôl, ac mae bellach yn hollol ddall yn ei lygad chwith a'n rhannol ddall yn y dde.

Yn ôl Mr Harris, fe ddylai gael ei weld "pob chwe mis, ond fi heb gael fy ngweld ers dwy flynedd".

Dywedodd bod cael apwyntiad yn ei glinig lleol yn Aberystwyth wedi bod yn anodd iawn, a'i fod yn "poeni am golli ei olwg wrth aros".

"Ond mae cannoedd o bobl yn y sir yn dishgwl am appointments fel fi. Ma' fe'n warthus,"

Beth sy'n newydd?

Nod y mesur newydd yw sicrhau bod y rhai sydd â'r risg uchaf o golli eu golwg yn cael blaenoriaeth gofal a thriniaeth.

Mae pob claf yn cael amser aros penodol yn dibynnu ar lefel eu risg a pha mor gyflym y dylen nhw gael eu gweld.

Dylai 95% o gleifion yn y categori risg uchaf gael ei gweld erbyn eu dyddiad targed neu o fewn cyfnod sydd ddim mwy na 25% yn hirach na hynny.

Er enghraifft, dylid gweld claf sydd â tharged wyth wythnos o fewn 10 wythnos ar y mwyaf.

Am y tro cyntaf fe fydd y targed yn berthnasol i gleifion sydd angen apwyntiadau dilynol a chleifion newydd.

Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno targed ar gyfer cleifion gofal llygaid yn seiliedig ar anghenion claf a'r targed amser arferol.

Mae hyn yn bwysig oherwydd gall clefydau fel glawcoma a dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran achosi dallineb parhaol, ond mae cyflyrau eraill, fel cataractau, sy'n gallu gwaethygu ond mae modd adfer golwg trwy driniaeth.

Pam fod y newidiadau'n cael eu cyflwyno?

Mae colli golwg yn broblem gynyddol, gyda'r disgwyl y bydd nifer y cleifion sy'n cael eu heffeithio yn dyblu erbyn 2050.

Mae'r gwasanaeth iechyd eisoes yn cael trafferth ateb y galw gyda'r rhestrau aros offthalmoleg yn destun pryder ers blynyddoedd.

Yn ogystal dyw'r ystadegau amser aros arferol ddim yn dangos pa mor hir yr oedd cleifion oedd eisoes yn y system yn gorfod aros am apwyntiadau dilynol, ar ôl cael apwyntiad cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn "benderfynol" o wneud "y peth iawn" gyda'r achos yma

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething y byddai'n sicrhau y bydd perfformiad yn gwella ar y targed newydd yn y dyfodol.

"Mae gwella mynediad a chyflymu diagnosis yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gofal llygaid yn addas ar gyfer y dyfodol," meddai.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella gofal llygaid?

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £3.3m i fyrddau iechyd sefydlu gwasanaethau cymunedol newydd, hyfforddi mwy o staff a datblygu clinigau "rhithwir" i drin cleifion drwy gyswllt dros y we.

Bydd £7m arall yn cael ei wario ar gyflwyno cofnodion digidol ar gyfer gofal llygaid cleifion.

Mae elusennau hefyd yn galw am gynllun hirdymor i fynd i'r afael â phrinder staff er mwyn lleihau rhestrau aros.

Beth ydy barn meddygon?

Mae meddygon llygaid wedi croesawu'r targed newydd.

Dywedodd Dr Gwyn Williams o Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr bod "rhestrau aros gofal llygaid yn broblem fawr dros Brydain".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Gwyn Williams bod 'na gynnydd o 40% yn y cleifion golwg sy'n ymweld â'r coleg o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl

"Mae tua 40% o gynnydd wedi bod yn nifer y cleifion sydd angen triniaeth yn ystod y 10 mlynedd diwetha', a dyw nifer y staff na'r adnoddau ddim wedi cynyddu cymaint â hynny, felly mae cleifion wedi gorfod aros.

"Dydych chi ddim yn gallu datrys problem os nad y' chi'n deall maint y broblem - felly mae'n rhaid mesur cyn bo modd datrys.

"Mae newid y mesur yn bwysig ofnadwy... mae fe'n rhywbeth chwyldroadol."